Mae bod yn ofalwr ar gyfer eich plentyn neu oedolyn dibynnol yn golygu mynd y tu hwnt i’ch rôl fel rhiant o gymharu â rhiant arall sydd â phlentyn o’r un oedran.
Ydych chi’n rhiant sy’n ofalwr?
Mae bod yn rhiant sy’n ofalwr yn golygu eich bod yn cyflawni tasgau ychwanegol, ac yn treulio mwy o amser yn gofalu amdanynt. Gallai hyn gynnwys bwydo, ymolchi, hebrwng i apwyntiadau, darparu cefnogaeth emosiynol ychwanegol, newid a darparu gofal personol. Gallai’r tasgau hyn eich atal rhag byw eich bywyd fel y dymunwch, fel cael swydd, treulio amser gyda ffrindiau neu dalu eich biliau.
Gall fod yn anodd bod yn rhiant, ond efallai eich bod yn ofalwr os ydych chi’n darparu gofal sydd y tu hwnt i’r dyletswyddau rhianta dydd i ddydd arferol ar gyfer eich plentyn, waeth beth fo’u hoedran. Rydym yn deall y gall fod yn anodd gwybod y gwahaniaeth rhwng bod yn rhiant a gofalwr, a gwahanu eich rôl o ofalu oddi wrth y berthynas sydd gennych gyda’r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt.
Byddwn yn defnyddio’r term ‘plentyn’ i wneud pethau’n syml, ond gallant fod o unrhyw oedran
Dod o hyd i gymorth
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn ofalwr ar gyfer eich plentyn, efallai eich bod yn teimlo’n unig, yn flinedig ac yn emosiynol, a’ch bod angen cymorth a chefnogaeth gyda’ch arian.
Canolfannau Teuluoedd y Cyngor
Gall eich Canolfan Deuluoedd leol ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth. Treuliwch amser gydag un o’r Gweithwyr Teulu a all eich cyfeirio at wasanaethau gwybodaeth a allai fod o gymorth i chi.
Os ydych chi’n chwilio am rieni eraill i sgwrsio â nhw, ac i gwrdd â phobl mewn sefyllfa debyg, gall eich Canolfan Deuluoedd leol eich cynorthwyo i ddod o hyd i glybiau lleol, grwpiau cefnogi a chyfleoedd i wneud ffrindiau. Mae hyn yn ffordd dda o fynd i’r afael ag unigedd, rhannu syniadau, a dysgu gan rieni eraill. Mae’r Ganolfan Deuluoedd yn le croesawgar a chyfeillgar, lle y gallwch ymlacio a sgwrsio gydag eraill.
Mae ein Canolfannau Teuluoedd wedi’u lleoli ledled y sir felly bydd modd canfod un yn eich ardal leol.
Eich rhwydwaith cymorth
Ydych chi wedi ystyried y rhwydwaith cymorth o’ch cwmpas?
Rydym yn aml yn anghofio gofyn am gymorth gan deulu a ffrindiau. Efallai nad ydym eisiau eu poeni, ond yn amlach na pheidio dyma’r rhai sy’n eich adnabod chi a’ch plentyn orau. Defnyddiwch y rhai sydd o’ch cwmpas i’ch cefnogi a’ch cynorthwyo. A oes aelod o’r teulu neu gyfaill agos sy’n gallu helpu er mwyn i chi gael seibiant, neu helpu i fynd â’ch plentyn i apwyntiad?
Ein rhwydweithiau cymorth yw’r lle y gallwn ganfod pobl yr ydym yn ymddiried ynddynt i helpu, ac yn aml maent yn adnabod ein plant yn dda.
Eich Meddyg Teulu
Ydych chi wedi siarad â’ch Meddyg Teulu i geisio arweiniad o ran yr anghenion iechyd yr ydych yn darparu cefnogaeth ar eu cyfer?
Gall eich Meddyg Teulu eich atgyfeirio at gwnsela os ydych chi’n teimlo y byddai hyn o fudd i chi. Gall darparu cymorth gofal i rywun gael effaith arnoch chi a’ch lles emosiynol.
Gwasanaethau cefnogi, cyngor a gwybodaeth
- Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru a Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd yn darparu ystod o wasanaethau i ofalwyr yng Nghonwy. Efallai y gallant eich cynghori a’ch cefnogi gyda seibiant, er mwyn i chi gael hoe fach o’ch cyfrifoldebau gofalu.
- Gall Gofalwyr Cymru gynnig cyngor ar fudd-daliadau, gwaith a thechnoleg.
- Gall fod yn gostus bod yn ofalwr, felly ceisiwch gyngor o ran arian, cyllid, ac unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn gan eich Tîm Hawliau Lles lleol.
- Mae gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Dewis Cymru wybodaeth am grwpiau a chlybiau lleol.
- Os ydych chi’n deulu mwy, gall gofalu am blentyn gyfyngu ar eich amser gyda’ch plant eraill, ac efallai bod brodyr a chwiorydd yn eich cefnogi gyda’ch cyfrifoldebau gofalu. Efallai y byddwch yn dymuno ceisio cymorth, cefnogaeth a seibiant ar gyfer eich plant eraill drwy Gofalwyr Ifanc WCD. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt gael amser i brosesu pethau a chael seibiant o’r aelwyd.
- Os ydych chi’n gweld bod eich cyfrifoldebau gofalu yn effeithio ar eich perthynas, gall Relate gynnig cyngor am berthnasau a chymorth cwnsela.
- Mae STAND yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan rieni ac yn cefnogi teuluoedd ac oedolion ag anghenion ychwanegol ac anableddau. Mae STAND yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant, grwpiau cefnogi rhieni a gweithgareddau yn y gymuned ar gyfer pob oed. Mae rhai o aelodau tîm STAND yn hyfforddwyr ar gyfer y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol.
- Mae Cyswllt Conwy CC4LD yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan aelodau ledled Gogledd Cymru. Yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar gyfer pobl o bob oed mae ganddynt brosiectau Pontio, Iechyd, Ymgysylltu a Hunan-eiriolaeth.
- Mae Parent Talk yn darparu sgwrs ar-lein yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim i rieni a gofalwyr.
- Mae Magu Plant. Rhowch Amser Iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol yn rhad ac am ddim ar gyfer yr holl heriau magu plant.
- Mae Home Start Cymru yn elusen deuluol sy’n cynnig cefnogaeth i rieni pan fyddant ei angen fwyaf.
- Mae Fforwm Cymru Gyfan yn grymuso rhieni a gofalwyr pobl gydag anableddau dysgu.
- Gall Cerebra eich cynorthwyo i ganfod datrysiadau pan fyddwch yn cael anawsterau cysgu.
- Mae AP Cymru yn elusen sy’n gallu eich cefnogi gyda heriau niwroamrywiaeth.
- Gall y Ganolfan Cefnogi Ymddygiad eich cynorthwyo gydag ymddygiad heriol, a chyflyrau niwroamrywiol.
Cefnogaeth dros y ffôn
- Family Lives (Parent Line yn flaenorol): 0808 800 2222
- Childline: 0800 1111
- C.A.L.L. (llinell gymorth iechyd meddwl): 0800 132 737
- SNAP Cymru: 0808 801 0608
- Y Samariaid: 116 123
Gweithiwr cymdeithasol
Os oes gennych chi weithiwr cymdeithasol, mae modd cysylltu â nhw i drafod anghenion eich teulu.
Angen siarad â ni?
Os ydych chi wedi archwilio’r llwybrau cefnogi yr ydym wedi’u hawgrymu a'ch bod yn teimlo bod angen i chi drafod eich anghenion gyda’r Awdurdod Lleol, ffoniwch ni ar 0300 456 1111, efallai y byddwch yn gymwys am Asesiad Gofalwr.
Gall aelod o staff gynnal yr asesiad yn eich cartref, a byddant yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi am eich bywyd o ddydd i ddydd, pa gefnogaeth yr ydych yn ei derbyn eisoes, a pha gefnogaeth bellach sydd ei hangen arnoch. Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn gymorth i nodi a ydych yn ofalwr ac yn gymwys am gefnogaeth gennym ni.
Nid yw Asesiad Gofalwr yn golygu y byddwch yn derbyn gwasanaeth bob amser. Mae’n drafodaeth am yr hyn a allai weithio i chi fel teulu o amgylch eich cyfrifoldebau gofalu.