Gwyddom fod blynyddoedd cynnar y plentyn yn bwysig ac yn effeithio ar eu datblygiad. Nod y cynllun yw rhoi cymorth dwys i blant dan 4 oed a'u teuluoedd.
Nod y rhaglen yw canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau, gan gynnwys iaith, datblygiad cymdeithasol, corfforol ac emosiynol a chymorth ychwanegol lle bo angen.
Rydym yn gwneud hyn gydag ymweliadau iechyd dwys, grwpiau rhianta, gweithgareddau chwarae a gofal plant rhan-amser wedi ei ariannu. Byddwch fel arfer yn cael gwybodaeth gan eich Ymwelydd Iechyd os ydych wedi cofrestru gyda meddygon a’ch bod mewn ardal Dechrau'n Deg.
Os ydych yn cael gwasanaethau gan Ddechrau’n Deg, bydd rhywfaint o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae mwy o wybodaeth am sut mae eich data’n cael ei ddefnyddio a’i gadw yn hysbysiad preifatrwydd Dechrau’n Deg.
Cysylltwch a’ch Tîm Cefnogi Teulu lleol i gael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd yng Nghonwy.
Cysylltiadau
Ymholiadau Cyffredinol
Gofal Plant Dechrau’n Deg
Tîm Iechyd Dechrau’n Deg
- Ardal Canolog (Bae Colwyn, Hen Golwyn, Mochdre, Betws yn Rhos, Llanddulas, Llysfaen)
- Ffôn: 03000 854444
- Ardal Gogledd (Llandudno, Bae Penrhyn)
- Ffôn: 01492 574583