Mae Tramffordd y Gogarth – Os gwelwch yn dda cadwch oddi ar y traciau

Tramffordd y Gogarth
Mae Tramffordd y Gogarth – Os gwelwch yn dda cadwch oddi ar y traciau
Bydd Tramffordd Y Gogarth yn ailagor ar 27 Mawrth 2025 a bydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos tan ddechrau mis Tachwedd.
Gan mai ein prif flaenoriaeth yw diogelwch y cyhoedd a gyda’r tramiau yn gwneud 40 o deithiau pob diwrnod i fyny’r Gogarth, gofynna Rheolwr Tramffordd, Luke Stevenson, am i fodurwyr gymryd sylw o’r cyfyngiadau mynediad ar hyd yr Hen Ffordd.
Dylai gyrwyr gymryd mwy o ofal, a chadw at Reolau'r Ffordd Fawr, wrth groesi yng nghyffordd y giât ddu ar y rhan isaf a Ffordd Yr Eglwys ar y rhan uchaf.
Yn y gorffennol rydym wedi gweld rhai unigolion yn anwybyddu Rheolau’r Ffordd Fawr, a all arwain at gerbydau yn dod wyneb yn wyneb â'r tram; mae hefyd yn gosod esiampl wael i yrwyr sy'n anghyfarwydd â'r ardal.
Diolch i chi am eich cydweithrediad, gyrrwch yn ofalus a chadwch yn ddiogel.
Wedi ei bostio ar 25/03/2025