Rydym yn falch o alluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain i gysylltu â ni drwy ddefnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion, drwy Wasanaeth InterpretersLive!, a ddarperir gan Sign Solutions.
Mae gennym hefyd atebion i nifer o gwestiynau cyffredin mewn BSL
Gwelwch beth yw barn pobl am y Gwasanaeth InterpretersLive!
Cyn i chi gael mynediad at wasanaeth InterpretersLive! dewiswch pa ddyfais hoffech ei defnyddio.
Argaeledd Gwasanaeth
Oriau gwasanaeth ein gwasanaeth fideo InterpretersLive! yw 08.00 tan 24:00, 7 niwrnod yr wythnos. Y tu allan i’r oriau hyn, cysylltwch â ni i archebu Dehonglydd ymlaen llaw a all fod ar-lein o fewn 30 munud.
Sut i ddefnyddio InterpretersLive!
Fideo BSL:
Gofynion Sylfaenol
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy ddyfeisiau a gefnogir gan Windows ac Apple Mac.
Mae’r gwasanaeth yn gydnaws â’r porwyr canlynol:
Google Chrome fersiwn 46 a hwyrach, Firefox fersiwn 45 a hwyrach, Opera fersiwn 39 a hwyrach. Os ydych chi’n defnyddio Safari 9 neu Internet Explorer 11, lawrlwythwch yr ychwanegiad pan ofynnir i chi wneud hynny. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn, y tro nesaf byddwch yn mynd yn syth i’r botwm galw.
Os ydych chi’n defnyddio Safari 9 neu Internet Explorer 11, lawrlwythwch yr ychwanegiad pan ofynnir i chi wneud hynny. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn, y tro nesaf byddwch yn mynd yn syth i’r botwm galw.
Cymorth a Datrys Problemau
Os ydych yn cael anawsterau cysylltu â Gwasanaeth InterpretersLive! rhowch gynnig ar wylio ein canllaw Datrys Problemau:
Nodwch: Os oes llai na 120kbps ar gael gennych – galwad sain yn unig fydd yn bosib. Y gofyniad isaf ar gyfer galwadau fideo yw 192kbps.
Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at yr Ap rhowch gynnig ar wylio ein fideo canllaw.
Neu, cysylltwch â Sign Solutions am ragor o gymorth neu i roi adborth ar y gwasanaeth.
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn, dilynwch y canllawiau a nodir yma:
Preifatrwydd
Mae Sign Solutions, darparwyr InterpretersLive! wedi’u hardystio ISO 27001 ac ISO 9001, caiff pob data ei brosesu a’i ddal yn ddiogel. Fel sefydliad ardystiedig, rydym yn ymroddedig i welliant parhaus ac yn cael ein hasesu’n allanol bob blwyddyn, i sicrhau y cynhelir cynnydd.