Mae cynllun Cyber Essentials yn nodi rheolaethau diogelwch TG hanfodol y mae’n rhaid i sefydliadau eu cael er mwyn amddiffyn ei hun rhag bygythiadau ar y rhyngrwyd. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i seiberddiogelwch.
Er bod gan y Cyngor y rheolaethau angenrheidiol yn eu lle ers peth amser ac eisoes wedi mabwysiadu mesurau diogelwch gwell ac yn eu profi pan fo’n briodol, mae’r ardystiad hwn yn rhoi sicrwydd i ddinasyddion, busnesau, aelodau etholedig, swyddogion a sefydliadau partner bod systemau a data’r Cyngor wedi eu diogelu rhag y bygythiadau rhyngrwyd mwyaf cyffredin fel hacio, gwe-rwydo a dyfalu cyfrineiriau. Mae’r cynllun yn helpu sefydliadau ddiogelu cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd data a gedwir ar ddyfeisiau sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd.
