Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Gwaith ffyrdd – Trosodd Cyffordd Llandudno i Gonwy

Gwaith ffyrdd – Trosodd Cyffordd Llandudno i Gonwy


Summary (optional)
start content

Mae angen adnewyddu trosffordd Cyffordd Llandudno o gylchfan y Weekly News i dref Conwy, i gymryd lle'r diddos, uniadau symud a draeniad.

Mae hwn yn brosiect sylweddol a fydd yn cael ei wneud dros ddwy flynedd. Mae gwaith eleni yn cael ei wneud mewn dau gam i osgoi aflonyddwch ym mis Gorffennaf ac Awst, ac i ganiatáu i draffig, gan gynnwys bysiau, barhau i ddefnyddio'r drosffordd i Gonwy.

Bydd y cyfnod cyntaf hwn o waith yn gorffen erbyn 23 Mehefin, a'r ail gyfnod yn dechrau ym mis Medi. Mae angen gwneud y gwaith yn ystod tywydd sych, felly ni ellir ei gwblhau ddiwedd yr hydref na'r gaeaf. Rydym yn anelu at wneud y gwaith 7 diwrnod yr wythnos gyda rhywfaint o waith dros nos, er mwyn gwneud y gwaith cyn gynted â phosibl.

Deallwn fod y bont yn brif lwybr i Gonwy. Gan fod hwn yn llwybr allweddol mae’r gwaith mor bwysig, i gadw’r bont yn ddiogel ac yn agored am flynyddoedd i ddod. Caewyd y bont ddiwethaf ar gyfer gwaith mawr yn 1995. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achoswyd wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.

Gall talwyr ardrethi busnes gysylltu â'r Swyddfa Brisio (Dod o hyd i brisiad ardrethi busnes - GOV.UK (www.gov.uk)) i gyflwyno cynnig i newid eu rhestr ardrethi lle bu newid ffisegol yn yr ardal leol sy'n effeithio ar y prisiad. Gellir gwneud y cynnig hwn ar ôl i'r gwaith ffordd ddod i ben – gan y bydd angen i ffigurau masnach adlewyrchu'r effaith drwy gydol y gwaith ffordd, ond rhaid ei gyflwyno erbyn 31 Mawrth 2023.

Os dymunwch gyflwyno Cynnig cliciwch yma i ddod o hyd i'ch eiddo. Cliciwch ar ‘presennol prisiad’, ‘cael help gyda’r prisiad hwn’, ‘Rwy’n meddwl bod fy mhrisiad yn anghywir’ i nodi eich manylion.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â'r Swyddfa Brisio yn uniongyrchol ar 03000 505505 neu e-bostiwch ndrinbox@voa.gov.uk

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?