Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Braf Bob Nos


Summary (optional)
Nod Cynllun Gwobrwyo Braf Bob Nos yw cefnogi safon o ragoriaeth o fewn y fasnach drwyddedu yn y sir. Mae’n gyfle i eiddo trwyddedig brofi eu bod yn rhedeg lleoliadau diogel a chyfrifol gyda safonau gofal cwsmer proffesiynol ac uchel.
start content

Cafodd goreuon bywyd nos Conwy eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo ddydd Llun 25 Tachwedd 2019 wrth i enillwyr y Gwobrau Braf Bob Nos rhanbarthol gael eu cyhoeddi.

Mae Braf Bob Nos yn gynllun achredu sydd wedi’i gefnogi gan y Swyddfa Gartref a’r diwydiant diodydd, a'i fwriad yw hyrwyddo safleoedd sydd â thrwyddedau gwerthu alcohol gael eu rheoli a'u gweithredu'n gyfrifol. Mae’r cynllun bellach yn gweithredu ers chwe mlynedd.

Mae safleoedd achrededig yn sicrhau lleoliad diogel i’w fwynhau ar noson allan, sy’n hanfodol er mwyn twf economaidd a chynaladwyedd y rhanbarth.

Mae cyfanswm o 33 o dafarndai, barau a mannau hamdden yn y rhanbarth yn rhan o'r cynllun ac fe gwblhaodd pob un asesiadau trylwyr yn gynharach eleni i ddangos eu bod yn cwrdd â'r safonau rheoli safle uchel sy'n ofynnol gan y cynllun Braf Bob Nos.

Mae 26 o safleoedd wedi cael achrediad lefel aur, 2 lefel arian ac 1 lefel efydd. Mae 4 safle arall yn disgwyl am eu hachrediad.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ym Mharc Gwyliau Golden Sands lle cyflwynwyd gwobr y Prif Enillydd i Club 147.

Cyflwynwyd gwobrau mewn categorïau eraill i:

  • Rhos Fynach – y Dafarn Orau
  • Club 147 – y Bar Gorau
  • The Beachcomber Club – y Lleoliad Hamdden Gorau
  • The George & Dragon, Abergele – Tafarn Gymunedol Orau
  • Y Gloch Las – y Wobr Werdd

Isod mae rhestr o leoliadau sydd wedi’u hachredu ar draws Sir Conwy:

  • Llandudno - Town House, The Cross Keys, The Irish Bar, The Palladium,  Bwyty the Lilly gydag ystafelloedd, Club 147, The Carlton, The Fat Cat, the Gresham
  • Conwy – Y Gloch Las, Bank of Conwy.
  • Llanddulas – The Beachcomber Club
  • Bae Colwyn / Hen Golwyn – Gwesty’r Marine, The Picture House, Rhos Fynach, Parc Eirias.
  • Abergele – The George & Dragon, The DPL Wine Bar & Grill.
  • Bae Cinmel – Parc Gwyliau Golden Sands, The Mayquay, Palins Country Club
  • Towyn - The Long Bar, Parc Gwyliau Lyons Winkups, Parc Gwyliau Lyons Oakfield, The Seagull, Jakes Family Restaurant & Bar, Golden Gate Club, Browns Bar & Grill.

Gwobrau Braf Bob Nos 2020

I gyflwyno cais ar gyfer eich eiddo, lawrlwythwch, llenwch a dychwelwch y Ffurflen Gais (mae manylion ynghylch lle i anfon eich cais ar gael ar y ffurflen).

Defnyddiwch yr Arweinlyfr Braf Bob Nos i gael arweiniad ar sut i lenwi eich ffurflen. Pob lwc!

Am fwy o wybodaeth a chyngor ar gynllun Braf Bob Nos cysylltwch â’r:

  • Dros y Ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00 i 12:30
  • Trwy'r post:
Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?