Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Adfywio Bae Colwyn Bywyd y Bae Cynigion Canol Tref Bae Colwyn 2020

Cynigion Canol Tref Bae Colwyn 2020


Summary (optional)
Rhowch eich barn am gynlluniau ar gyfer canol tref Bae Colwyn
start content

Ymgynghoriad cyhoeddus

Cwblhawyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion rhwng 18 Medi a 31 Hydref 2020. 
Rydym wedi adolygu ac ystyried yr holl ymatebion ac rydym bellach yn gweithio ar gynlluniau diwygiedig.

Cefndir

Cyhoeddwyd Prif Gynllun Bae Colwyn yn wreiddiol yn 2010. Daeth y Prif Gynllun â syniadau, dyheadau a chysyniadau ynghyd i helpu tynhau ffocws ar adfywio’r dref. Roedd y Prif Gynllun gwreiddiol yn canolbwyntio ar bedair prif ardal:

  • Glan y môr
  • Parc Eirias
  • Tai
  • Canol y Dref

Ers hynny, mae Bae Colwyn wedi gweld buddsoddiad sylweddol a llawer o newidiadau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • amddiffynfeydd arfordirol
  • gwella’r promenâd
  • datblygu Canolfan Ddigwyddiadau Eirias
  • adeiladu swyddfeydd newydd y cyngor yng Nghoed Pella
  • adnewyddu Theatr Colwyn
  • dymchwel yr hen Neuadd Farchnad adfeiliedig

Rydym bellach yn adolygu ac yn diweddaru’r cynigion ar gyfer Canol y Dref.

Nodau ac Amcanion

Nodau’r cynigion yw:

  • datblygu amgylchedd fydd yn annog mewnfuddsoddiad
  • cynyddu nifer yr ymwelwyr
  • darparu gwell cyfleoedd economaidd i fusnesau a phobl leol

Cadarnhaodd Arolwg Perfformiad Canol Tref a gyhoeddwyd yn 2019 bod gwella ymddangosiad  canol y dref a lleoedd parcio ymysg blaenoriaethau pennaf busnesau a phobl leol.

Ers dechrau pandemig y coronafeirws yn gynnar yn 2020, mae mwy o bobl bellach yn cerdded ac yn beicio, ac mae angen lle yn y mannau siopa i bobl allu cadw pellter cymdeithasol.

Gyda’r blaenoriaethau hyn mewn golwg, bydd y cynigion sydd wedi’u diweddaru yn:

  • Creu canol tref deniadol, nodweddiadol y bydd pobl eisiau treulio amser ynddo – i weithio, i siopa neu i dreulio eu hamser hamdden
  • Creu mannau mwy gwyrdd sydd o well ansawdd i bobl gael eu mwynhau, gan gynnwys trawsnewid rhai mannau
  • Ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel cyrraedd canol y dref ar droed ac ar feic
  • Darparu mannau parcio o ansawdd yn agosach at ganol y dref
  • Codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan canol y dref i’w gynnig
  • Lleihau effaith traffig wedi’i grynhoi drwy ei wasgaru ar draws rhwydwaith ffyrdd ehangach canol y dref
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?