Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pwyllgorau a Chyfarfodydd Penodiadau Pwyllgor Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (lleoedd gwag)

Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru’n dymuno penodi pobl ymroddgar i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig o 1 Tachwedd 2024 tan 31 Hydref 2028 er mwyn cefnogi a chraffu ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Mae rôl Aelod o’r Panel yn un bwysig a heriol, a disgwylir i’r Aelodau gynnal safonau uchel o ran uniondeb personol bob amser a bod yn barchus o eraill.

Gwahoddir ceisiadau gan bobl y mae ganddynt ddiddordeb ac sy’n deall pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a sut y maent yn cael eu darparu, ac sydd â diddordeb mewn diogelwch cymunedol a materion yn ymwneud â phlismona a chyfiawnder troseddol. Mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn dymuno adlewyrchu holl gymunedau gogledd Cymru, ac yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn cymwys ac o bob rhan o gymdeithas.

I wneud cais, bydd angen i chi allu dod i o leiaf 5 cyfarfod bob blwyddyn a gynhelir ym Modlondeb, Conwy, yn ystod y diwrnod gwaith arferol. Caiff aelodau’r Panel Heddlu a Throsedd gydnabyddiaeth ariannol yn unol â threfniadau’r Panel Heddlu a Throsedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â’r Panel Heddlu ar Throsedd ar 01492 576061 neu anfonwch e-bost at panel.heddlu@conwy.gov.uk.

Dyddiad Cau: 27 Medi 2024. Disgwylir y cynhelir y cyfweliadau ar 17 Hydref 2024 ym Modlondeb, Conwy.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?