Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Croeso i'r Gwasanaeth InterpretersLive! ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain.


Summary (optional)
Yn y DU, mae pobl sy’n Fyddar yn defnyddio amrywiol ffyrdd o gyfathrebu; Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw’r dull o gyfathrebu ag arwyddion a ddefnyddir fwyaf. Gwasanaeth dehongli fideo Iaith Arwyddion Prydain yw Interpreterslive!
start content

Rydym yn falch o alluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain i gysylltu â ni drwy ddefnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion, drwy Wasanaeth InterpretersLive!, a ddarperir gan Sign Solutions.


Mae gennym hefyd atebion i nifer o gwestiynau cyffredin mewn BSL

Gwelwch beth yw barn pobl am y Gwasanaeth InterpretersLive!

Cyn i chi gael mynediad at wasanaeth InterpretersLive! dewiswch pa ddyfais hoffech ei defnyddio.



Argaeledd Gwasanaeth

Oriau gwasanaeth ein gwasanaeth fideo InterpretersLive! yw 08.00 tan 24:00, 7 niwrnod yr wythnos.  Y tu allan i’r oriau hyn, cysylltwch â ni i archebu Dehonglydd ymlaen llaw a all fod ar-lein o fewn 30 munud.

Sut i ddefnyddio InterpretersLive!

Fideo BSL:

 

Gofynion Sylfaenol

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy ddyfeisiau a gefnogir gan Windows ac Apple Mac.

Mae’r gwasanaeth yn gydnaws â’r porwyr canlynol:

Google Chrome fersiwn 46 a hwyrach, Firefox fersiwn 45 a hwyrach, Opera fersiwn 39 a hwyrach. Os ydych chi’n defnyddio Safari 9 neu Internet Explorer 11, lawrlwythwch yr ychwanegiad pan ofynnir i chi wneud hynny. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn, y tro nesaf byddwch yn mynd yn syth i’r botwm  galw.

Os ydych chi’n defnyddio Safari 9 neu Internet Explorer 11, lawrlwythwch yr ychwanegiad pan ofynnir i chi wneud hynny. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn, y tro nesaf byddwch yn mynd yn syth i’r botwm  galw.

Cymorth a Datrys Problemau

Os ydych yn cael anawsterau cysylltu â Gwasanaeth InterpretersLive! rhowch gynnig ar wylio ein canllaw Datrys Problemau:

 

Nodwch: Os oes llai na 120kbps ar gael gennych – galwad sain yn unig fydd yn bosib.  Y gofyniad isaf ar gyfer galwadau fideo yw 192kbps.

Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at yr Ap rhowch gynnig ar wylio ein fideo canllaw.

Neu, cysylltwch â Sign Solutions am ragor o gymorth neu i roi adborth ar y gwasanaeth.

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn, dilynwch y canllawiau a nodir yma:

 

Preifatrwydd

Mae Sign Solutions, darparwyr InterpretersLive! wedi’u hardystio ISO 27001 ac ISO 9001, caiff pob data ei brosesu a’i ddal yn ddiogel. Fel sefydliad ardystiedig, rydym yn ymroddedig i welliant parhaus ac yn cael ein hasesu’n allanol bob blwyddyn, i sicrhau y cynhelir cynnydd.

Logo Cyflogwr Hyderys o Ran Anabledd
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?