Roedd 185 o ymatebion i’r arolwg holiadur. Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr yn cefnogi pob un o amcanion allweddol y strategaeth;
- Bydd y gweithgareddau diwylliannol a ddatblygwn ‘yn anturus, yn chwareus ac yn gysylltiol’ (89.7% yn cefnogi)
- Byddwn yn creu ‘Sbardunau’ diwylliannol yn ein trefi mwyaf, a fydd yn gweithredu fel canolbwyntiau adfywio er budd yr ardaloedd cyfagos (90.2% yn cefnogi)
- Byddwn yn sefydlu ‘Timau Trefi’ creadigol i gymryd perchnogaeth prosiectau diwylliannol ar lefel gymunedol (88.5% yn cefnogi)
- Byddwn yn gwneud diwylliant yn hygyrch i bawb, ac yn rhan fawr o fywyd bob dydd yng Nghonwy (95.7% yn cefnogi)
- Bydd ymwelwyr i Gonwy yn cael eu syfrdanu gan ddiwylliant Conwy (91.8% yn cefnogi)
- Mae cynnig diwylliannol Conwy yn unigryw ac ar flaen y gad (82.5% yn cefnogi)
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig y dewis i ymatebwyr ychwanegu eu sylwadau ‘testun rhydd’ eu hunain a chyflwynwyd 156 o sylwadau yn yr adran hon.
Dyma oedd y prif bwyntiau:
- Yr angen i gael model twristiaeth gynaliadwy a pharchus sydd ddim yn effeithio’n negyddol ar amgylchedd, iaith na chymunedau Conwy, yn cynnwys pryderon am effaith twristiaeth ddiwylliannol ar newid hinsawdd.
- Pwysig sicrhau bod cymunedau’n cael gwir fewnbwn a’u bod yn gallu arwain prosiectau, gyda chefnogaeth gan yr arbenigwyr cywir o’r diwydiannau diwylliannol.
- Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, ond hefyd yr angen i gyflwyno traddodiadau diwylliannol eraill a grwpiau/ieithoedd lleiafrifol yn ogystal â sicrhau bod gweithgareddau’n hygyrch i’r rhai sydd o bosib angen cymorth ychwanegol i gymryd rhan.
- Yr angen i sicrhau bod y model Sbarduno yn gwireddu’r manteision ar gyfer cymunedau a threfi llai cyfagos.
- Y meysydd a nodwyd fel rhai sy’n atal llwyddiant yw diffyg cludiant (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a chyda’r nos) a diffyg isadeiledd cymunedol a’r adnoddau i ddarparu.
Roedd y meysydd mwyaf poblogaidd ar gyfer datblygu prosiectau’n ymwneud â:
- Pherfformiadau yn yr awyr agored
- Hyrwyddo a datblygu sioeau a gwyliau amaethyddol mewn ffordd gydgysylltiedig
- Y Gymraeg
- Pobl ifanc a phrosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau
- Llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol
- Prosiectau sy’n archwilio diwylliannau eraill a dathlu amrywiaeth ddiwylliannol yn y wlad hon ac yn rhyngwladol,
- Nosweithiau cerddoriaeth a chomedi
- Cysylltiadau â gwyddoniaeth a daeareg
- Prosiectau amgylcheddol / trefi gwyrdd
- Diwydiannau creadigol a digidol
- Cefnogi’r sector llawrydd
- Cefnogi a hyrwyddo talent a chynnyrch lleol
- Prosiectau sy’n canolbwyntio ar y dirwedd – teithiau cerdded, sgyrsiau a theithiau tywys
- Tywyswyr / llysgenhadon diwylliannol
Fe hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd. Yn dilyn y newidiadau a wnaed ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus, cymeradwywyd y Strategaeth gan Gabinet Conwy ar 23 Tachwedd 2021.
Gellir darllen fersiwn derfynol y Strategaeth yn Creu Conwy – Tanio’r Fflam, Strategaeth Ddiwylliant ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2021-2026 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Rŵan, bydd cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu llunio a bydd prosiectau’n cael eu blaenoriaethu, eu datblygu a’u cyflwyno dros y pum mlynedd nesaf.