Cofrestrwch nawr i dderbyn cefnogaeth am ddim gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy
Y ddolen uchod yw ein ffurflen gysylltu. Os byddwch angen rhannu gwybodaeth sensitif, ffoniwch ni ar 01492 575578.
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ‘siop bob peth’ dan arweiniad y gymuned ar gyfer cyflogadwyedd yng Nghonwy.
Os ydych chi’n ddi-waith, rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i waith sy’n addas i chi drwy gynnig:
- Ymgynghorwyr a mentoriaid cyflogaeth penodol sy’n cynnig cyngor am waith, swyddi a budd-daliadau
- Mentora personol un-i-un, wedi’i addasu i’r unigolyn
- Cyrsiau am ddim gan hyfforddwyr proffesiynol i feithrin sgiliau
- Cymorth i ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
- Cefnogaeth ariannol i oresgyn rhwystrau rhag hyfforddiant a gwaith:
Benthyg cyfrifiaduron Chromebook a donglau wifi, costau teithio, dogfennau adnabod
- Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr:
digwyddiadau, ymgyrchoedd recriwtio, cyfleoedd gwaith, lleoliadau gwaith a chyrsiau ar lwybrau gyrfa
- Atgyfeirio at asiantaethau neu bartneriaid eraill lle bo hynny’n briodol.
Fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu chi ac mae gennym fynediad at rwydwaith o gyflogwyr sydd eisiau recriwtio ar bob lefel.
Angen cymorth gennym?
Rhaglenni Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n gweithredu’r rhaglenni canlynol ar ran Llywodraeth Cymru.
Cymunedau am Waith a Mwy
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn Rhaglen Gyflogadwyedd wirfoddol wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth mentora dwys i helpu pobl dros 20 oed i fagu hyder a sgiliau a dod o hyd i waith a’i gadw.
CfW-footer-updated030423
Gronfeydd Allweddol Conwy UKSPF
uk-gov-funded
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Gronfeydd Allweddol Conwy UKSPF i gynnal y rhaglenni canlynol.
Prosiect Cyflogadwyedd Pobl Ifanc
Mae’r prosiect hwn yn datblygu ar waith llwyddiannus y mae’r Canolbwynt wedi’i wneud gyda phobl ifanc 16 i 19 oed, sydd yn canolbwyntio ar helpu a chefnogi’r grwp oedran hwn i ddatblygu sgiliau am oes gan ddarparu llwybr amlwg at gyflogaeth.
Hyder yn Dy Hun
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar leihau ynysiad cymdeithasol; datblygu gwytnwch; cynyddu hyder/hunan-barch; datblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd gan wella iechyd corfforol a meddyliol.
Cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer Hyfforddiant
uk-gov-funded
Mae gan y Canolbwynt raglen o lwybrau a chyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae’n chwarae rôl hanfodol i ddarparu academïau hyfforddiant addysg a swyddi hanfodol ar draws y sir.
Grant Cymorth Tai Conwy
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi bod yn llwyddiannus mewn cais am gyllid gan Grant Cymorth Tai Conwy i’w ddefnyddio i dreialu Mentor Cyflogaeth dynodedig i Bobl Ddigartref.
Mentor Cyflogaeth i Bobl Ddigartref
Mae’r Mentor Cyflogaeth i Bobl Ddigartref yn cryfhau ffocws y Canolbwynt i gefnogi pobl ddi-waith gydag ystod o faterion am dai. Mae’r Mentor o fewn y Tîm Atal Digartrefedd er mwyn cefnogi pobl sydd mewn perygl o, neu’n profi digartrefedd er mwyn eu helpu i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Rhaglenni cyflogadwyedd eraill
Prosiect Cynnydd
Mae’r Canolbwynt hefyd yn hyrwyddo a gweithio â’r cynllun Cynnydd sydd wedi’i ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Conwy. Rhaglen wirfoddol yw hon ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd mewn perygl o fod ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant, ac er ei bod yn debyg i raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, y nod yw gweithio â’r bobl ifanc hynny sydd anoddaf eu cyrraedd a darparu’r cyngor, gofal a chymorth gorau posib er mwyn iddynt greu gwell dyfodol beth bynnag y maent yn ei wynebu.