Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyrchfan Conwy


Summary (optional)
start content

Mae Conwy yn Sir sy'n croesawu twristiaeth. Mae yn ei DNA, o ymwelwyr o’r Oes Efydd, hyd at y Fictoriaid a ddatblygodd Llandudno yn gyrchfan glan môr. Mae twristiaeth yn sbardun economaidd allweddol i’r sir, ac yn wir i’r rhanbarth ehangach. Mae ein golygfeydd godidog, ein treftadaeth ddiwylliannol, ein hystod anhygoel o atyniadau, a phobl fusnes dalentog a chroesawgar yn golygu bod Sir Conwy bellach yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un o brif gyrchfannau ymwelwyr y DU.

Mae twristiaeth yn sector blaenoriaeth i Sir Conwy. Yn ôl ffigyrau STEAM 2022 mae twristiaeth yn cael effaith economaidd hollgynhwysfawr gwerth £1.1 biliwn ar economi’r sir. Mae hyn yn rhagori ar lefelau 2019 pan oedd yr effaith economaidd yn £996.16m. Mae ffigyrau ymwelwyr hefyd wedi codi’n ôl i lefelau 2019.

Rhennir y manteision yn gynyddol ar draws y Sir; gydag ymwelwyr yn gwario ar lety, bwyd a diod, gweithgareddau hamdden a siopa. Mae busnesau nad ydynt yn rhai twristiaeth hefyd yn elwa trwy gadwyni cyflenwi lleol, megis y cyfanwerthwr sy'n cyflenwi bwytai a'r garej leol lle mae ymwelwyr yn cael tanwydd.

Mae twristiaeth hefyd yn werthfawr iawn i'r gymuned ehangach; yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig lle mae llawer o nwyddau a gwasanaethau ar gael i'r gymuned breswyl yn unig ac yn parhau i fod yn hyfyw oherwydd gwariant ymwelwyr. Cyfeirir at y budd economaidd ehangach hwn i'r gyrchfan fel yr Economi Ymwelwyr ac mae'n llawer ehangach nag effaith uniongyrchol yr elfen dwristiaeth yn unig.

Er mwyn sicrhau adferiad a thwf parhaus y Sir, mae Partneriaeth Cyrchfan Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi amlinellu 11 amcan yn y Cynllun diwygiedig i gefnogi’r diwydiant dros y 6 blynedd nesaf.

Cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy 2023-2029 (PDF)

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?