Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Seddi Gwag Cyngor Tref Towyn a Bae Kinmel - Ward Towyn: Hysbysiad o Etholiad

Cyngor Tref Towyn a Bae Kinmel - Ward Towyn: Hysbysiad o Etholiad


Summary (optional)
start content

Hysbysiad o Etholiad

Cyngor Tref Towyn a Bae Cinmel - Ward Towyn

Cynhelir etholiad ar gyfer un Cynghorydd Tref ar gyfer Cyngor Tref Towyn a Bae Cinmel (ward Towyn)
Dyddiad yr Etholiad:  Dydd Iau, 17 Hydref 2024

Cael papurau enwebu

  • 1.  Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau un ai ym Modlondeb, Conwy, LL32 8DU neu’n electronig drwy etholiadol@conwy.gov.uk.

Cyflwyno papurau enwebu

  • 2.  Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ddim hwyrach na 4pm ddydd Gwener, 20 Medi 2024.
  • 3.  Gellir danfon papurau enwebu yn bersonol i’r Swyddog Canlyniadau ym Modlondeb, Conwy, LL32 8DU rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig isod.
  • 4.  Os bydd etholiad, cynhelir y bleidlais dydd Iau, 17 Hydref 2024.

Cofrestru Etholwyr

  • 5.  Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn dydd Mawrth, 1 Hydref 2024. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Pleidlais bost a thrwy ddirprwy

  • 6.  Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod yn rhaid i bob cais am bleidlais bost newydd, neu bob cais i ddiwygio neu ganslo pleidlais bost bresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn 5pm, ddydd Mercher, 2 Hydref 2024. Mae hyn yn cynnwys etholwyr neu eu dirprwyon sy’n dymuno diwygio eu trefniadau presennol yn barhaol.
  • 7.  Rhaid i bob cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy,  LL32 8DU erbyn 5pm, ddydd Mercher, 9 Hydref 2024.
  • 8.  Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm, ddydd Iau, 17 Hydref 2024. Rhaid i’r anallu corfforol fod wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mercher, 9 Hydref 2024. I ymgeisio ar sail gwaith/gwasanaeth neu coronafeirws, mae’n rhaid i’r unigolyn fod wedi dod i wybod na allant fynd i’r orsaf bleidleisio eu hunain ar ôl 5pm ddydd Mercher, 9 Hydref 2024.

Datganiad cyflwyno’n electronig

  • 9.   Gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad hwn - 

Sylwer:

    • Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn cael y ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau.
    • Nid yw derbynneb electronig bod y neges wedi ei ddarllen gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys.  Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i roi gwybod i ymgeiswyr am ei benderfyniad a yw eu henwebiad yn ddilys neu beidio.
    • Os bydd arnoch angen cymorth i gyflwyno eich enwebiadau’n electronig, cysylltwch ag etholiadol@conwy.gov.uk.

 

Rhun_ap_Gareth_Signature

Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau


Dyddiedig:
  Dydd Iau, 12 Medi 2024
Cyhoeddwyd gan:  y Swyddog Canlyniadau, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU
Rhif ffôn:  01492 576052

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?