CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Ein ffioedd a thaliadau ar gyfer yr amlosgfa.
Amlosgiadau | Teyrngedau | Cynwysyddion | Gwasgaru llwch | Ffioedd eraill
Uchafswm maint arch: 36” x 87” x 22” / 91cm x 221cm x 56cm. Ni allwn dderbyn eirch sy'n fwy na hyn.
- Gwasanaeth heb oruchwyliaeth. Yn cynnwys amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol, blwch cludo llwch (ar gael rhwng 8.15am a 8.45am yn unig): £450
- Gwasanaeth ffarwelio. Yn cynnwys y defnydd o’r capel (10 munud i gynnwys mynd i mewn a gadael), amlosgi, 1 darn o gerddoriaeth, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol, blwch cludo llwch. (ar gael am 8.30am, 8.45am, 12:30pm, 12:45pm, 1:30pm neu 1:45pm): £565
- Gwasanaeth cost isel. Yn cynnwys y defnydd o’r capel (30 munud i gynnwys mynd i mewn a gadael), amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol, blwch cludo llwch. (ar gael rhwng 9.00am a 9.30am yn unig): £710
- Gwasanaeth gyda goruchwyliwr (18 oed a hŷn). Yn cynnwys y defnydd o’r capel (45 munud i gynnwys mynd i mewn a gadael), amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol, blwch cludo llwch: £935
- Gwasanaeth traddodi. Yn cynnwys y defnydd o’r capel (15 munud i gynnwys mynd i mewn a gadael), amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol, blwch cludo llwch. (ar gael am 12.30pm a 1.30pm): £935
- Gwasanaeth gyda goruchwyliwr. Yn cynnwys y defnydd o’r capel (45 munud i gynnwys mynd i mewn a gadael), amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol, blwch cludo llwch. (ar gael am 3.30pm): £1,124
- Baban marwanedig/plentyn o dan 18 oed (gweler Gwasanaeth gyda goruchwyliwr am fanylion): dim tâl
- Ffoetws anhyfyw (yn cynnwys defnydd o Gapel y Fynwent am 30 munud): dim tâl
- Organau a gedwir. Yn cynnwys amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol, blwch cludo llwch. (Amlosgi yn unig. Heb gynnwys gwasanaeth capel): £189
- Ffi ychwanegol am slot dwbl: £358
- Storio’r llwch ar ôl 1 mis: £61
- Tystysgrif amlosgi: £24
Cerddoriaeth
- System gerddoriaeth Obitus (dim tâl ar gyfer rhai dan 18 oed): £12
- Llogi organ: dim tâl
Lluniau
- Un llun (dim tâl ar gyfer rhai dan 18 oed): £14
- Cyfres syml o luniau (hyd at 25 llun) (dim tâl ar gyfer rhai dan 18 oed): £79
- Lluniau ychwanegol (hyd at 50 llun): £43
- Teyrnged broffesiynol (hyd at 25 llun): £109
- Teyrnged wedi’i gwneud gan y teulu (hyd at 25 llun): £22
Cofroddion
- DVD / USB / CD o’r gwasanaeth: £73
- Cofrodd i’w lawrlwytho: £20
- Gweddarlledu a 28 diwrnod i’w wylio eto (dim tâl ar gyfer rhai dan 18 oed): £78
- Teyrnged â thema: £120
- Gwasanaethau eraill: pris ar gais
- Blwch cludo llwch (wedi’i gynnwys yng nghost yr amlosgi): dim tâl
- Polytainer: £25
- Cistan bren / cistan wiail £75
- Wrn efydd: £53
- Tiwbiau gwasgaru: £25
Yn yr Ardd Rosod, y Ddôl neu’r Llwybr Coetir:
- Gwasgaru llwch heb dyst os bu’r amlosgi yn Amlosgfa Bae Colwyn: dim tâl
- Gwasgaru llwch gyda thyst os bu’r amlosgi yn Amlosgfa Bae Colwyn: £48
- Gwasgaru llwch os bu’r amlosgi mewn amlosgfa arall £206
- Gwasgaru llwch o dan y dywarchen ar fedd: £109
- Gwaith papur hwyr (wedi’i dderbyn llai na 3 diwrnod cyn y gwasanaeth): £44
- Canslo archeb: £55
- Eirch dros 30st / 190kg: £110
CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfon e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.