Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sut i fod yn adeilad cymeradwy yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Os hoffech i'ch lleoliad fod wedi ei gymeradwyo ar gyfer cynnal seremonïau sifil a phartneriaethau sifil, gallwch wneud cais am Drwydded Eiddo Cymeradwy gan yr Awdurdod Lleol.

A oes angen y drwydded hon arnaf i ac a ydw i'n gymwys?

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod yn un o berchnogion neu'n un o ymddiriedolwyr yr eiddo, neu'n gweithredu ar eu rhan a bod y cais yn bodloni'r holl ofynion a nodwyd gan statud a gan yr Awdurdod Lleol.

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud?

I wneud cais rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais wedi ei chwblhau ynghyd â darparu cynllun o'r eiddo a thalu'r ffi sy'n ofynnol.

Beth sy'n rhaid i ni ei wneud?

Yna, byddwn yn trefnu cynnal archwiliad ffurfiol o'r eiddo a rhoi rhybudd cyhoeddus statudol ar wefan y Cyngor. Un diwrnod ar hugain ar ôl gosod y rhybudd, os nad ydym wedi cael unrhyw wrthwynebiadau oddi wrth y cyhoedd, yr adran gynllunio neu'r swyddog diogelwch tân i ddyfarnu trwydded i'ch lleoliad, a chyn belled ag y bo'r cais yn bodloni'r rheoliadau a'r holl ofynion angenrheidiol, bydd eich lleoliad yn cael ei gymeradwyo ac yn cael trwydded sy'n para tair blynedd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fydd eich eiddo wedi cael ei gymeradwyo, bydd manylion eich lleoliad yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan a'u cynnwys mewn pecynnau gwybodaeth a roddir i gyplau sy'n gofyn am wybodaeth am seremonïau.

Taliadau a Ffioedd

Gweler ein tudalen Ffioedd Priodi, Partneriaeth Sifil a Chofrestru.

Crynodeb o'r rheoliadau

  • Deddf Priodasau 1949
  • Deddf Priodasau 1994 (diwygiwyd)
  • Deddf Partneriaethau Sifil 1994
  • Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Eiddo a Gymeradwywyd) 2005
  •  Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil 2011 (Eiddo a Gymeradwywyd) (Diwygiwyd)

Camau Unioni

Mae gennych hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad yr Awdurdod Lleol. Rhaid cyflwyno'ch cais am adolygiad i'r Awdurdod Trwyddedu felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Dogfennau

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?