Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun lliniaru llifogydd Llansannan


Summary (optional)
start content

Mae’r cynllun wedi lleihau’r perygl llifogydd drwy gynyddu capasiti’r system ddraenio o 70%, a oedd yn cynnwys ceuffos newydd, gwella sianel yr afon a chodi muriau llifogydd newydd.

Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • cynyddu maint y cwlfert sy’n croesi’r A544 ar ben gogleddol y pentref
  • gwella sianel yr afon yn Nalar Bach
  • adeiladu argae newydd yn Nalar Bach yn y maes parcio hyd at gilfach Llain Hiraethog
  • gwella’r sianel o flaen Llain Hiraethog
  • disodli’r cwlfert o sianel Llain Hiraethog i lawr Ffordd Gogor, a chysylltu’n ôl i Afon Bach yn Uwch yr Aled 
  • dargyfeirio ceblau BT, carthffos fudr a phrif gyflenwad dŵr Dŵr Cymru
  • creu ardal i eistedd yn Llain Hiraethog

Buddion amgylcheddol

  • Cael gwared ar adeileddau cored mewn tri lleoliad i helpu pysgod i ymfudo
  • Gosod bafflau ar hyd gwely’r sianel i greu mannau gorffwys i bysgod sy’n ymfudo
  • Gosod wal gynnal â llystyfiant i wella bioamrywiaeth

Buddion cymdeithasol

  • Creu dwy ardal gymunol newydd ar hyd yr A544

Cyllid y prosiect

  • Ariannwyd 85% gan Lywodraeth Cymru
  • Ariannwyd 15% gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Rhaglen

  • Cam dylunio wedi’i gwblhau:  31 Mai 2021
  • Cam tendr adeiladu:  Mehefin 2021
  • Dechreuodd y gwaith:  Chwefror 2022
  • Cwblhawyd y gwaith:  Tachwedd 2022

Ffotograffau

Arllwysfa ceuffos A544 Arllwysfa ceuffos A544 Sianel Dalar Bach A544 Sianel Dalar Bach A544 Sianel afon Dalar Bach Sianel afon Dalar Bach

 

Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Llansannan wedi ennill gwobr Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru.

Enwebwyd y cynllun gan y contractwyr, MWT Civil Engineering Cyf., gan ennill categori’r prosiect gorau dan £5 miliwn.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?