Mae’n naturiol i gŵn gyfarth, ond gall cyfarth neu nadu di-baid darfu ar eich cymdogion.
Yn aml iawn bydd ci’n cyfarth pan fydd ei berchennog allan am am gyfnodau hir.
Os bydd ci cymydog yn tarfu arnoch, soniwch wrthyn nhw am y broblem, gan ei bod yn bosibl nad ydynt yn gwybod bod eu ci’n cyfarth.
Os nad yw hyn yn datrys y broblem neu os ydych yn teimlo na allwch siarad â’ch cymydog, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni am gi sy’n cyfarth
Pan dderbyniwn eich cwyn, byddwn yn trafod y manylion gyda chi a hefyd perchennog y ci i geisio datrys y broblem yn gyflym.