Cynlluniau ar gyfer Ysgol Minafon
O 28 Ebrill 2025 ymlaen bydd Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin yn dod yn Ysgol Minafon. Y Pennaeth fydd Mr Ashley Bennett o'r dyddiad hwnnw.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol gymunedol newydd yn meddwl y dylai'r ysgol fod ar un safle.
Gallai addysgu’r holl ddysgwyr ar un safle:
- wella’r gefnogaeth o ran addysg disgyblion
- gwella’r amgylchedd dysgu a bod yn lle hwyliog i ddysgu
- meithrin cymuned ysgol fwy cadarn.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch y cynnig hwn eto.
Dogfennau
Hanes yr ymgynghoriad
content
Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2024, yn dilyn ystyriaeth ofalus, penderfynodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau’r cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin, sy’n golygu y bydd y ddwy ysgol yn dod i ben (cau) ar 31 Awst 2024.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer Mochdre i'w chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar safleoedd presennol Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin, ar gyfer plant 3-11 oed.Bydd y cynnig hwn yn cael ei roi ar waith ar 1 Medi 2024.
Wrth benderfynu ar y cynnig, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (11/2018):
- Ansawdd a safonau mewn addysg
- Yr angen am leoedd
- Adnoddau addysg a goblygiadau ariannol eraill
Gwnaethpwyd y penderfyniad yn dilyn cyfnod gwrthwynebu statudol a gynhaliwyd rhwng 7 Tachwedd 2023 a 5 Rhagfyr 2023. Mae’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ac ymateb yr awdurdod lleol wedi’u crynhoi yn yr adroddiad gwrthwynebiadau a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 23 Ionawr 2024.
Yn unol â'r penderfyniad uchod, bydd Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin yn cau ar 31 Awst 2024 ac yn cael eu disodli gan un ysgol ar gyfer Mochdre ar ddau safle.
content
Yn y cyfarfod ar 13 Mehefin 2023, rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymeradwyaeth i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ynglŷn â’r cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin.
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn para o 19 Mehefin 2023 tan 7 Awst 2023.
Bydd y Cyngor yn ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau a wneir yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad hwn.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad, gallai'r Cyngor benderfynu peidio bwrw ymlaen ymhellach â’r cynnig neu i fwrw ymlaen â’r cynnig neu addasiad ohono. Byddai unrhyw gynnig ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ar ffurf hysbysiad statudol cyhoeddus.
Mae gan y Cyngor bwerau i gynnig ehangu neu gau ysgolion. Pe bai’r cynigion yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod ymgynghori hwn, yna byddai cyfnod statudol o 28 diwrnod lle gellir cyflwyno sylwadau pellach a gwrthwynebiadau ffurfiol.
Ni fydd unrhyw ymatebion yn ystod yr Ymgynghoriad yn cael eu hystyried fel gwrthwynebiadau ffurfiol. Er mwyn i ymatebion gael eu hystyried fel gwrthwynebiadau
content
Yn eu cyfarfod ar 10 Hydref 2023, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cynnig i uno Ysgol Babanod Mochdre ac Ysgol Cystennin yn mynd yn ei flaen i’r cam Hysbysiad Statudol.
Mae crynodeb o'r Hysbysiad Statudol ar gael isod ac mae'r hysbysiad llawn ynghlwm.
P'un a oes gwrthwynebiadau'n dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 41 a 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi ymgynghori a’r cyfryw rai sy’n ofynnol, yn cynnig yr isod:
1. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu y