Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Derbyniadau Ysgolion Gwneud cais am Meithrin, Derbyn ac Iau (Bl 3) ar gyfer Medi 2025-2026

Gwneud cais am Meithrin, Derbyn ac Iau (Bl 3) ar gyfer Medi 2025-2026


Summary (optional)
Gwybodaeth derbyniadau a ceisiadau ysgolion cynradd
start content

ER GWYBODAETH: Mae ond yn anghenrheidiol i wneud cais i ysgol iau (Bl 3 Medi 2025) os ydi’r safle ysgol yn wahanol i’r ysgol babanod 

Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn y gellir ei hargraffu o'r ffurflenni trwy glicio yma.

Y dyddiadau cau ar gyfer pob cais yw:

  • Cais Meithrin: 17 Chwefror 2025
  • Cais Derbyn: 18 Tachwedd 2024
  • Cais Iau: 18 Tachwedd 2024


Byddwch ym ymwybodol nad yw derbyn i ddosbarth meithrin yn gwarantu derbyn i’r dosbarth derbyn. Bydd yn rhaid i chi ail-ymgeisio a cwblhau cais am le i’r dosbarth derbyn y flwyddyn wedyn.

Byddwch yn cael gohebiaeth ynglŷn â'ch cais am le yn yr ysgol erbyn y dyddiadau isod:

  • Cais Meithrin: 6 Mai 2025
  • Cais Derbyn: 16 Ebrill 2025
  • Cais Iau: 16 Ebrill 2025

Ceisiadau hwyr

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i geisiadau a geir erbyn y dyddiad cau yn y lle cyntaf

Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried tan ar ôl y rhai a geir erbyn y dyddiad cau, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r rheswm dros yr oedi wrth ddychwelyd eich ffurflen. Mae hyn yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Gall ceisiadau hwyr heb reswm da olygu siom os yw eich ysgol ddewisol yn llawn.

Gwybodaeth Bwysig

Nodwch os byddwch yn ceisio am le yn unrhyw un o’r ysgolion canlynol:

  • Ysgol Bendigaid William Davies
  • Ysgol Bodafon
  • Ysgol Pen y Bryn
  • Ysgol San Sior
  • Ysgol Sant Joseff
  • Ysgol Y Plas

Yn ogystal â llenwi’r Ffurflen Derbyniadau Ysgolion, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol rydych chi yn ei ffafrio i gael ffurflen gais. o’r ysgol.

Gwybodaeth defnyddiol ynghlyn a derbyniadau:

Dyddiadau Pwysig am Ceisiadau Meithrin

Erbyn 23 Medi 2024

  • Ceisiadau ar-lein yn agor
  • Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir hefyd bostio copïcaled  drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
  • Llyfrynnau sut i wneud cais ar gael uchod

Erbyn 18 Chwefror 2025

  • Dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau Meithrin

Erbyn 6 Mai 2025

  • Cyhoeddi llythyr yn cynnig neu gwrthod lle

 

Dyddiadau Pwysig am Ceisiadau Derbyn & Iau

Erbyn 23 Medi 2024

  • Ceisiadau ar-lein yn agor
  • Llyfrynnau sut i wneud cais ar gael uchod
  • Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir postio copï caled  drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031

Erbyn 18 Tachwedd 2024

  • Dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau Derbyn & Iau

Erbyn 16 Ebrill 2025

  • Cyhoeddi llythyr yn cynnig neu wrthod lle

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?