Yn 2021-2022, gwariodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oddeutu £5.8 miliwn ar gludiant o’r cartref i’r ysgol ac oddeutu £6.5 miliwn yn 2022-2023.
Mae sawl rheswm dros y cynnydd yn y costau:
- Cynnydd mewn costau teithio (tanwydd, gwasanaethu, atgyweirio, ac ati)
- Problemau o ran capasiti (prinder cerbydau a gyrwyr)
- Problemau cyflenwi (diffyg gweithredwyr cludiant)
- Cynnydd yn y ddarpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol y tu allan i rwymedigaethau statudol
- Cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth briodol o gludiant o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gan gynnwys cerbydau arbenigol a chynorthwywyr teithio
- Trafferthion â lleihau neu ddirymu darpariaeth cludiant os yw amgylchiadau neu sefyllfa disgybl yn newid
Canran bras y gwariant ar Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol fesul meini prawf yn 2022-2023:
Cludiant statudol ac eithrio ADY: 39%; Disgyblion ag anghenion meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol (statudol ac anstatudol): 32%; Ysgolion cyfrwng Cymraeg: 14%; Ôl-16: 10%; Ysgolion enwadol: 3%; Costau dewisol eraill: 2%
Tudalen flaenorol: Beth sy'n rhaid i awdurdodau lleol ei ddarparu?