Croeso bawb i Ein Llais Cymraeg, ein Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg ar gyfer 2024-2029. Mae’n ddogfen statudol, sy’n ofynnol o dan y gyfraith, ond nid dyma pam rydym yn gwneud hyn. Rydym yn gwneud hyn gan ein bod yn falch o’n diwylliant Cymreig ac yn falch fod Conwy yn Gyngor dwyieithog ac rydym yn angerddol ynglŷn â chefnogi pobl.
Mae’r Gymraeg yn rhan o bwy ydym ni. Ein hiaith ni yw’r Gymraeg ac mae’n perthyn i ni i gyd. Mae’n rhan o’n hanes, ein treftadaeth a’n diwylliant. Mewn cyfnod lle rydym i gyd yn wynebu llawer o heriau, fe all dathlu ac annog ein Llais Cymraeg ddod â ni ynghyd. Fe hoffem ni i bawb ymuno â ni, waeth faint o Gymraeg rydych yn ei wybod, o le bynnag rydych yn dod a lle bynnag rydych yn byw ar hyn o bryd yn sir Conwy.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg hefyd yn ymwneud â’r teulu, y gymuned, ysgolion, busnesau, twristiaeth ac yn fwy na dim mae’n ymwneud â phobl. Rhywbeth sy’n perthyn i bobl yw iaith a nod y cynllun hwn yw cefnogi pobl i feithrin dealltwriaeth, ewyllys da a gobeithio cariad tuag at y Gymraeg a’i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Conwy.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni ar y daith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ydych chi’n un o filiwn? Os ydych yn siaradwr Cymraeg sy’n gallu sgwrsio yn Gymraeg ym mhob sefyllfa rydym eich angen chi hefyd, i gefnogi eraill ac i helpu i greu’r cyfleoedd lle gall y Gymraeg ffynnu. Yn ogystal â chynyddu’r nifer o bobl sy’n gallu siarad ychydig o Gymraeg, rydym eisiau i fwy o bobl siarad Cymraeg bob dydd.
Mae’r her sydd o’n blaenau yn un gyffrous a thrwy osod gweledigaeth gref, rydym yn hyderus y byddwn yn gallu cydweithio i hyrwyddo’r Gymraeg yn llwyddiannus yma yng Nghonwy. Amdani!
Dogfennau