Mae ystod o faterion y gellir delio â nhw fel niwsans statudol sy’n niweidiol i iechyd, neu’n ymyrryd â mwynhad unigolyn o'u heiddo.
Fel arfer, bydd ‘rhain yn cynnwys:
Sŵn er enghraifft:
- Cymdogion swnllyd (megis cerddoriaeth uchel, teledu swnllyd, larymau, adeiladu neu waith DIY ar adegau afresymol yn ystod y dydd)
- Sŵn o leoliadau masnachol neu ddiwydiannol (e.e. adloniant, larymau, aerdymheru, gwaith adeiladu neu ddymchwel)
- Sŵn larymau car
- Cŵn yn cyfarth
Mathau eraill o niwsans:
- Cyflwr gwael yr adeilad, sy’n effeithio ar eiddo cyfagos
- Mwg, er engrhaifft, o goelcerthi, mygdarth, nwyon, llwch ac arogleuon a allyrrir o adeilad
- Anifeiliaid a gedwir mewn ffordd sy'n achosi niwsans
- Golau Artiffisial
- Pentyrru gwastraff neu garthion
Dolen i Gyngor ar Sŵn gan Lywodraeth Cymru
Nodwch, ni allwn ddelio gyda’r synau canlynol:
- Sŵn awyrennau (sifil neu filwrol),
- Synau domestig bob dydd megis toiledau’n fflysio, plant yn crio neu bobl yn siarad ar y stryd
Datrys y mater eich hun
Os ydych yn cael problemau gyda niwsans, lle bo modd, dylech geisio trafod y mater yn anffurfiol gyda'r sawl sy'n achosi'r broblem. Fel arfer gellir ei datrys yn gyflym heb fod angen unrhyw gamau pellach.
Cyflwyno cwyn i’r Cyngor
Pan fo cwyn yn codi, byddwn yn trafod y manylion gyda chi a hefyd yn cysylltu â'r tramgwyddwr honedig i ddatrys y mater yn gyflym.
Os nad ellir ei ddatrys gyda’ch cymydog, bydd angen i chi ein helpu i gasglu tystiolaeth a chofnodi manylion y niwsans.
Mae sawl ffordd i gasglu tystiolaeth:
Yr Ap Sŵn
Gan ddefnyddio’r ap hawdd ei ddefnyddio, gallwch greu dyddiadur sŵn electronig. Bydd gwneud recordiadau sain o’r aflonyddwch yn ein helpu gyda’ch cwyn. Gellir rhannu’r recordiadau’n hawdd gyda swyddogion yn y Tîm Diogelu’r Amgylchedd. Bydd y recordiadau yn ein helpu i bennu a oes niwsans sŵn. Gellir lawrlwytho’r a par ffonau clyfar Android ac iPhone.
Os oes gennych gŵyn presennol am sŵn:
Taflenni cofnodi niwsans
Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r Ap Sŵn, neu eich bod yn profi math arall o broblem, dylech ddefnyddio taflenni cofnodi i gofnodi manylion o’r niwsans a sut mae’n effeithio arnoch chi a’ch teulu.
Datganiad Tyst
Efallai bydd y Cyngor yn penderfynu erlyn y sawl sy’n creu’r niwsans. Bydd disgwyl i chi ddarparu datganiad. Heb hyn, efallai ni fyddwn yn gallu cymryd y mater ymhellach.
Gwybodaeth Bwysig
Mae angen i’ch tystiolaeth fod yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth a chred.
Os methwch â gwneud hyn, gallech chi fel unigolyn fod yn atebol i erlyniad.
Hawliau Dynol
Wrth gasglu tystiolaeth, mae’n bwysig peidio torri’r ddeddfwriaeth hawliau dynol. Wrth gwblhau eich taflen cofnodi niwsans, peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol.
Colli tystiolaeth
Cofiwch gadw copi o’ch tystiolaeth –nid allwn fod yn gyfrifol am golli unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd.
Mae’r dystiolaeth a gofnodir, ym mha bynnag ddull, yn cynorthwyo Swyddogion y Cyngor i ddeall eich cwyn ac yn eu galluogi i benderfynu a yw’n debygol o gyfrif fel niwsans statudol. Mae hyn yn helpu Swyddogion y Cyngor i nodi patrymau ynghylch pryd mae’r synau’n debygol o ddigwydd rhag ofn y bydd angen iddynt ddod i ymweld. Efallai bydd y dystiolaeth yn ffurfio rhan o unrhyw achos os yw’r mater yn parhau i’r Llys, un ai drwy weithred y Cyngor neu drwy gymryd camau cyfreithiol eich hun. Heb dystiolaeth ddigonol, ni fydd eich achos yn parhau.
Cwynion Dienw
Ni fydd cwynion dienw fel arfer yn cael eu hymchwilio oherwydd pa mor anodd yw hyn.