Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn help i bennu'r blaenoriaethau tai strategol ac mae modd ei ddefnyddio fel adnodd i drafod darpariaeth tai fforddiadwy wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol i helpu i ddarparu tai fforddiadwy.
Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Bob pum mlynedd, mae disgwyl i awdurdodau lleol ailysgrifennu eu hasesiad yn ogystal â’i adnewyddu unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw (rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn).
Caiff yr asesiad ei baratoi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal asesiadau o'r farchnad dai leol (2022).
Mae’r asesiad hwn (2022-2037) wedi nodi angen blynyddol am 810 o dai ar gyfer y pum mlynedd gyntaf (2022-2027). Mae hynny’n cynnwys:
- 452 o unedau rhent cymdeithasol
- 242 o unedau perchentyaeth cost isel a rhent canolradd
- 116 o unedau ar y farchnad agored
Ar gyfer y deng mlynedd sy’n weddill (2028-2037) mae’r asesiad hwn wedi nodi angen blynyddol am 183 o dai. Mae hynny’n cynnwys:
- 47 o unedau rhent cymdeithasol
- 20 o unedau perchentyaeth cost isel a rhent canolradd
- 116 o unedau ar y farchnad agored
Dogfennau