Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyflwr Tai


Summary (optional)
Os oes gennych chi bryderon am safon eich llety rhent neu arferion rheoli eich landlord, gallwn gynnig cyngor i chi ar sut i ddelio â’r materion hyn.
start content

Mae Swyddogion Gwarchod Y Cyhoedd yn gweithio ar hyn o bryd efo Busnesau Conwy, asiantaethau a phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn diweddaru eu hunain â Rheoliadau'r Llywodraeth sydd gyda'r nod o gadw preswylwyr yn ddiogel a helpu i atal y lledaeniad o Covid 19.
Mae hi dal yn bosib cofnodi eich cwyn ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw gan mai gwaith ychwanegol yw hyn i ni ar gyfer y misoedd nesaf sy’n golygu bydd oedi gyda’r gwaith o brosesu a delio gyda’ch cwyn. 

 

Byddwn yn ymchwilio i gwynion am y materion canlynol:

  • atgyweiriadau i strwythur yr eiddo
  • bathiau, sinciau a gosodiadau glanweithiol eraill
  • gosodiadau gwresogi a dŵr poeth
  • gosodiadau trydanol a nwy
  • pryderon iechyd a diogelwch
  • lleithder a thwf llwydni
  • gwresogi gwael ac effeithlonrwydd thermol
  • diogelwch tân a diangfeydd 

Gallwn hefyd ymchwilio i gwynion am eiddo domestig pan fo:

  • diffyg atgyweirio o fewn un eiddo preswyl yn effeithio eiddo cyfagos
  • niwsans yn cael ei achosi yn sgil cadw anifeiliaid neu adar
  • eiddo yn llawn plâu neu mewn cyflwr aflan 

Os ydych chi’n byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth, hynny yw tŷ ag unigolion yn preswylio ynddo nad ydynt yn ffurfio un aelwyd. Gall eiddo fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth hyd yn oed os yw’n cynnwys fflatiau hunangynhwysol.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?