Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Lleoliad Mfyfyrwyr (10 mis)


Summary (optional)
Mae gennym gyfleoedd am leoliad ar gyfer myfyrwyr brwdfrydig sy'n dilyn rhyng-gyrsiau.
start content
  • 2 leoliad ar gael
  • Tachwedd 2023 - Medi 2024
  • Tâl: £250.00 yr wythnos.


Trwydded gyrru yn hanfodol.

Er nad yw llety’n cael ei ddarparu, rydym ni'n fodlon rhoi cyngor ar yr ardal leol a chwmnïau gosod lleol.

Beth fydda i'n ei gael ar y lleoliad?

  • Dealltwriaeth o sut mae gwarchodfeydd natur a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu rheoli.
  • Gwybodaeth am wahanol gynefinoedd a rhywogaethau.
  • Arolygu llwybrau cerdded cyhoeddus gydag ychydig o waith dilynol.
  • Cyfleoedd i ymarfer a datblygu sgiliau rheoli safle fel ffensio, cynnal a chadw llwybrau troed, gosod isadeiledd, rheoli coetiroedd, ac ati.
  • Archwiliadau diogelwch gwarchodfeydd a gwaith dilynol.
  • Cyfle i fynd ar gyrsiau hyfforddi.
  • Cyfle i wneud cysylltiadau yn y sector cefn gwlad.

 Beth fydda i'n ei wneud?

  • Arolygu a chynorthwyo i ddatblygu llwybrau cerdded a hyrwyddir, rhwydwaith hawl tramwy.
  • Gwaith rheoli ymarferol ym Mharc Gwledig y Gogarth a Gwarchodfeydd Natur Lleol eraill.
  • Cynllunio, blaenoriaethu a gwneud gwaith rheoli ymarferol mewn nifer o wahanol warchodfeydd natur ledled y sir, rhywfaint o waith dehongli, cynorthwyo’r cyhoedd gyda’u hymholiadau.

 

Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni - Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: 

Warden Parc Gwledig ar 01492 874151 / sally.pidcock@conwy.gov.uk
Cefn Gwlad Warden ar 07733 012842 / lesley.lawson@conwy.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Mehefin 2023

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?