Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tyddyn Drycin


Summary (optional)
Mae’r coetir llydanddail tawel yma’n hafan i fywyd gwyllt. Mae nifer o adeiladau’r chwarel yn rhoi awgrym i ni o’r gorffennol diwydiannol.
start content

Pam ymweld?

  • Golygfeydd godidog
  • Dewis o lwybrau gydag arwyddion cyfeirio
  • Rhywogaeth ddangosol coetir hynafol

Coetir llydanddail deniadol o fewn pellter cerdded i dref fechan Llanfairfechan. Mae’n serth mewn mannau ond mae’r golygfeydd o’r golygfannau dau lefel werth yr holl ymdrech.

Eich gwobr yw golygfa hyfryd o bromenâd y dref a golygfeydd o’r môr draw tuag at Ynys Seiriol ac Ynys Môn.

Mae’r brif fynedfa i’r coetir trwy giât mochyn uwchben Neuadd Gymunedol Pendalar.

Mae yno faes parcio rhad ac am ddim ac ardal chwarae gaeedig hefyd.  

Mae llwybr troed 29 yn pasio trwy ochr orllewinol y coetir trwy giatiau mochyn. Mae’r llwybr yn eich arwain trwy goed derw llawn cymeriad.  Mae’n ffurfio rhan o ‘Lwybr y Gogledd’ a thaith gerdded rhif 2 o daflen taith gerdded Llanfairfechan.

Gorffennol diwydiannol

Mae ymelwa ar gerrig yn ardal Penmaenmawr yn dyddio yn ôl i’r cyfnod neolithig (4-5000 mlynedd yn ôl). Mae llethrau gorllewinol mynydd Penmaenmawr wedi cael eu cloddio am wenithfaen ers y 1830au. Enw’r ardal sydd wrth droed chwarel Penmaenmawr yw’r ‘Ffrith’. Yng nghanol y 19eg Ganrif roedd yr ardal yma’n ardal eang o sgri a choetir gyda dau annedd. Er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am garreg wedi’i mathru, fe sefydlwyd ffatri mathru uwch ben Tyddyn Drycin er mwyn ymelwa ar y pentwr o gerrig oedd i’w canfod wrth droed mynydd Penmaenmawr. Roedd rhwydwaith o inclêns a thramffyrdd yn cludo’r cerrig i’r ffatri.

Fe sefydlwyd Penmaenmawr & Welsh Granite Co. yn 1911. Flynyddoedd wedyn fe adeiladwyd inclein er mwyn i gerrig o weddill chwarel Penmaenmawr gael eu cludo i gael eu mathru yn Nhyddyn Drycin. Daeth cynhyrchu carreg yn Nhyddyn Drycin i ben erbyn 1931 a bu’r safle yn segur tan y 1960au pan ddarparodd cerrig ar gyfer estyniad gwibffordd yr A55. Yn ddiweddar prynodd grŵp Hanson y chwareli yn cynnwys Tyddyn Drycin. Tîm Cefn Gwlad a Choed Conwy sydd yn rheoli’r coetir.

Pa fywyd gwyllt fyddwch chi’n ei ddarganfod?

Mae’r coetir yn gartref i sawl math gwahanol o blanhigyn ac anifail. Mae’r rhestr yma’n cynnwys ychydig o’r rhai a welwyd ar ddiwrnod braf ym mis Mai. Mae yna lawer mwy i’w darganfod os ewch chi allan pan fydd hi’n gwawrio neu’n machlud ar adegau gwahanol o’r flwyddyn.

Os ydych chi’n lwcus efallai y gwelwch chi’r hebog tramor uwch eich pen neu glywed sŵn diamheuol y frân goesgoch.

Coed:

  • Y Fedwen Arian
  • Derwen mes di-goes
  • Coed criafol
  • Helyg llwyd
  • Collen
  • Helygen ddeilgron
  • Llwyfenni llydanddail

Adar a thrychfilod:

  • Dryw
  • Titw cynffon-hir
  • Robin
  • Ji-binc
  • Sgrech y coed
  • Tarianbryf yr eithin
  • Glöyn Byw Brych y Coed

Blodau:

  • Bresych y cŵn
  • Suran y coed
  • Blodau'r gwynt (Rhywogaeth ddangosol coetir hynafol)
  • Llysiau’r eryr pêr (Rhywogaeth ddangosol Coetir Hynafol)
  • Mapgoll
  • Eithin Ewropeaidd
  • Tafod yr edn
  • Llysiau’r llwynog
  • Milfyw
  • Mefus gwyllt
  • Briallu
  • Pidyn y gog
  • Dant y ci
  • Honos (grug)
  • Meillionen hopysaidd
  • Marchredynen wryw
  • Marchredynen wryw pangolin (Rhywogaeth ddangosol coetir hynafol)
  • Tafod yr hydd (Rhywogaeth ddangosol coetir hynafol)


Cyfleusterau

  • Maes parcio am ddim
  • Cae chwarae i blant
  • Meinciau’r olygfan

Yn anffodus, nid oes yna gyfleusterau toiled yma. Mae’r toiledau cyhoeddus agosaf ar bromenâd Llanfairfechan yn agos at gaffi’r traeth (LL33 0BY).

Mae siopau a chaffis yn nhref Llanfairfechan, sydd ond taith fer yn y car, neu 15-20 munud ar droed o safle Tyddyn Drycin.

Mae croeso i gŵn yn Nhyddyn Drycin. Defnyddiwch y bin baw cŵn sydd wedi’i ddarparu ger y brif fynediad, sydd yn agos at Neuadd Gymunedol Pendalar.

Mae is-ddeddfau yn berthnasol ym mannau chwarae, mannau agored a gwarchodfeydd natur y Cyngor.

Darllenwch y Cod Cefn Gwlad cyn ymweld.


Sut i gyrraedd yno

Cerdded a beicio

Mae’r safle 20 munud ar droed neu 6 munud ar feic o Lanfairfechan, y dref gerllaw.

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 05 yn eich arwain ar hyd arfordir hyfryd Gogledd Cymru ac mae’r llwybr yma’n pasio’n agos at faes parcio, Neuadd Gymunedol Pendalar, ardal chwarae a mynedfa’r coetir.

Mae cerdyn llwybr hawdd i’w ddilyn yn nhaflen Llwybrau Cerdded Llanfairfechan.

Cludiant Cyhoeddus

Y safle bws agosaf at y safle yw arhosfa Parc Penmaen. Oddi yma, mae’r safle saith munud i ffwrdd ar droed.  

Mae’n rhaid gofyn i gael stopio yng ngorsaf reilffordd Llanfairfechan. Mae’r safle 20 munud ar droed o’r orsaf.

Gyrru

Neuadd Gymunedol Pendalar LL33 0RH yw’r cod post agosaf at y coetir.

Os byddwch chi’n teithio o gyfeiriad Bae Colwyn, ymunwch â’r A55 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Penmaenmawr a Llanfairfechan. Yng nghylchfan Llanfairfechan, cymerwch y troad cyntaf i Penmaen Road, yna trowch i’r chwith ac arhoswch ar Penmaen Road. Trowch i’r dde pan fyddwch chi’n cyrraedd Neuadd Gymunedol Pendalar.

Os byddwch chi’n cyrraedd o gyfeiriad Bangor, cymerwch yr ail droad oddi ar y gylchfan a dilynwch y cyfarwyddiadau uchod.


Beth sydd gerllaw?

Os byddwch chi awydd cerdded am gyfnod hirach, tarwch olwg ar daflen Teithiau Cerdded Llanfairfechan i weld sut i gysylltu llwybrau cerdded 1 a 2 i gyfuno Glan y Môr Elias a Thyddyn Drycin.

Mae Taith Gerdded Uwchdir Llanfairfechan ymhellach i ffwrdd.


Sut rydym ni’n gofalu am ein coetiroedd

Mae coetir derw uwchdir yn gynefin unigryw a gwerthfawr i rywogaethau cyffredin a rhai sydd dan fygythiad megis yr ystlum lleiaf.

Rydym ni’n monitro ein coed am arwyddion o straen ac afiechydon.  Pan fydd yna broblemau diogelwch amlwg, rydym ni’n gwneud cyn lleied o waith ag sydd angen, lleihau coeden i uchder polyn neu dorri’r goeden i adael pren marw. Mae’r ddau yn gynefinoedd eithriadol o werthfawr.

Bygythiadau i’n coetiroedd

Mae clefyd coed ynn yn afiechyd sy’n effeithio ar goed ynn yn nifer o’n gwarchodfeydd natur, coetir a pharciau llydanddail.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?