Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Map a Datganiad Diffiniol Bwrdeistref Sirol Conwy
Gorchymyn Diwygio Map Diffiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ychwanegu Llwybr Ceffylau Rhif 101 yng Nghymuned Caerhun) 2022
Mae'r Gorchymyn hwn wedi cael ei wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dan Adran53(2)(b) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("y Ddeddf"), oherwydd ei bod ynymddangos i'r Awdurdod fod angen newid Map a Datganiad Diffiniol Bwrdeistref Sirol Conwy oganlyniad i ddigwyddiad sydd wedi'i nodi yn Adran 53(3)(c)(i), yn benodol fod yr awdurdodwedi dod o hyd i dystiolaeth sydd (o’i ystyried ar y cyd â'r holl dystiolaeth arall berthnasol syddar gael iddo) yn dangos bod hawl tramwy nad yw'n ymddangos ar Fap a Datganiad DiffiniolBwrdeistref Sirol Conwy yn bodoli neu fod honiad rhesymol ei fod yn bodoli ar dir yn yr ardal ymae'r map yn ymwneud ag o, a’i fod yn hawi tramwy cyhoeddus a bod y tir y mae'r hawl yn bodoli arno yn Ilwybr cyhoeddus.
Mae'r Awdurdod wedi ymgynghori â phob awdurdod Ileol y mae’r tir y mae’r Gorchymyn yn ymwneud ag o yn rhan o’u hardal. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gorchymyn drwyhyn:
- 1. I bwrpas y Gorchymyn hwn, y dyddiad perthnasol yw 1 Gorffennaf 2022.
- 2. Bydd Map a Datganiad Diffiniol Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael eu diwygio fel y disgrifiwydyn Rhan I a Rhan ll yr Atodlen, ac sydd wedi ei ddangos ar y map sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn.
- 3. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y dyddiad y caiff ei gadamhau, a gellir cyfeirio atofel Gorchymyn Diwygio Map Diffiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ychwanegu Llwybr Ceffylau Rhif 101 yng Nghymuned Caerhun) 2022
RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 8fed dydd hwn o Rhagfyr Dwy fil a dau ar hugain
Caerhun-101-Seal
Tudalen Nesaf: Map