Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 23 Rhagfyr 2021Darllenwch adborth yr ymgynghoriad
Dyma Gam 2b Prosiect Glan Môr Bae Colwyn, sydd wedi bod yn gwella amddiffynfeydd arfordirol a mannau cyhoeddus ar hyd arfordir Bae Colwyn ers 2011.
Rydym yn paratoi cais cynllunio ar gyfer gwaith amddiffyn yr arfordir a gwelliannau i’r promenâd a mannau cyhoeddus yn Llandrillo-yn-Rhos ar hyd y morglawdd a'r traeth presennol.
Denodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi a Hydref 2021 ar gam diweddaraf Prosiect Glan y Môr Bae Colwyn nifer o sylwadau gan breswylwyr.
Ar sail yr adborth a dderbyniwyd, rydym yn darparu mwy o wybodaeth ar y rhannau o’r cynigion y bu i’r unigolion roi’r mwyaf o sylwadau arnynt. Rydym hefyd yn ymestyn eich cyfle i gael dweud eich dweud ar y cynigion.
Rhoddais sylwadau yn yr ymgynghoriad blaenorol, oes angen i mi roi sylwadau eto?
Mae croeso i chi ailadrodd y sylwadau neu roi sylwadau ychwanegol erbyn 23 Rhagfyr 2021. Os wnaethoch chi roi sylwadau’r tro diwethaf, byddant yn dal i gael eu cynnwys yn yr adroddiadau yr ydym yn eu cyflwyno gyda’n cais cynllunio.
Mae mwy o wybodaeth am Brosiect Glan Môr Bae Colwyn
Beth yw’r cynigion?
Rydym yn bwriadu gwella'r amddiffynfeydd arfordirol drwy fewnforio oddeutu 1 miliwn tunnell o dywod i'w osod o flaen y morglawdd presennol. Bydd hyn yn amddiffyn y morglawdd a'r eiddo a'r seilwaith y tu ôl iddo rhag bygythiad parhaus y môr a lefelau newid hinsawdd derbyniol.
Ar yr un pryd, hoffem wneud gwelliannau i'r promenâd er mwyn sicrhau buddion ehangach y cynllun. Fel rhan o'r cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt, rydym hefyd yn ystyried gwaith ychwanegol fel adnewyddu arwynebau, gwella goleuadau stryd a gwella cyfleusterau i feicwyr a cherddwyr. Rydym hefyd wedi edrych ar y llif traffig a'r trefniadau parcio, i weld sut y gallwn wella diogelwch a phrofiad pobl sy'n defnyddio'r promenâd a chyfleusterau lleol.
Mae'r cynigion yn rhoi'r cydbwysedd gorau o ddarpariaeth parcio, beicio ac i gerddwyr, drwy sicrhau diogelwch y cyhoedd. Bydd opsiynau ar gyfer chwarae a hamdden, yn ogystal â lleoedd digwyddiadau a llochesi.
Fe gewch chi’r cyfle rŵan i weld y cynlluniau a rhoi sylwadau cyn i ni gyflwyno cais cynllunio.
Y camau nesaf
Byddwn yn adolygu’r holl sylwadau a gallwn wneud newidiadau i’r dyluniad yn seiliedig ar y rhain.
Mae dechrau’r cynllun yn dibynnu ar ganiatâd cynllunio a chyllid. Rydym wedi gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru. Os byddwn yn derbyn cyllid, efallai bydd angen i ni adolygu’r dyluniadau i sicrhau bod yr holl elfennau yn fforddiadwy.
welsh government logo