Bydd Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel yn gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer eiddo ar hyd yr arfordir.
Y wybodaeth ddiweddaraf, Rhagfyr 2024:
- Cludwyd 14,000 o dunelli o greigiau yma o chwareli ledled gogledd Cymru, yn barod i'w gosod yn ofalus i greu'r amddiffynfeydd newydd rhag y môr.
- Mae ein contractwr wedi dechrau codi rhannau o'r mur gyda blociau concrit parod.
- Mae'r gwaith wedi dechrau ar greu tair mynedfa well i'r traeth.
Cwestiynau ac atebion
Beth yw’r broblem?
- Mae’r arfordir ym Mae Cinmel yn cael ei fygwth gan lifogydd oherwydd newid hinsawdd sy’n arwain at godi lefel y môr ac achosion mwy aml o stormydd mawr. Mewn rhai mannau mae angen cryfhau’r amddiffynfeydd arfordirol presennol a’u gwneud yn uwch.
- Mae cyflwr yr amddiffynfeydd arfordirol ar hyd y darn hwn o’r arfordir yn amrywio. Nid ydynt wedi cael eu dylunio ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn lefel y môr a’r stormydd mawr y gallwn eu disgwyl yn y dyfodol.
Beth yw’r cynlluniau?
- Mae’r amddiffynfeydd arfordirol presennol yn Wal Gynnal Towyn, o flaen parc gwyliau Golden Sands, yn cynnwys gwrthglawdd creigiau mawr. Mae’r gwrthglawdd creigiau mewn cyflwr da ond nid yw’n ddigonol i amddiffyn rhag y cynnydd yn lefel y môr a’r stormydd cynyddol. Mae’r cynlluniau’n cynnwys codi a lledu’r gwrthglawdd creigiau a chodi’r morglawdd.
- Mae’r amddiffynfa arfordirol ar hyd blaen Gorllewin Bae Cinmel yn cynnwys morglawdd heb unrhyw wrthglawdd creigiau. Ar hyn o bryd mae’r morglawdd gorllewinol yn rhy isel i amddiffyn yr arfordir yn ddigonol rhag llifogydd, felly mae’r cynlluniau’n cynnwys codi’r morglawdd er mwyn amddiffyn yr arfordir yn well.
- Mae gan Ddwyrain Bae Cinmel forglawdd ar hyn o bryd gyda gwrthglawdd creigiau. Bydd y gwrthglawdd creigiau hwn yn cael ei godi a’i ledu, a bydd y morglawdd yn cael ei godi’n uwch.
Pwy sy’n ariannu hyn?
- Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Raglen Rheoli Risg Arfordir Llywodraeth Cymru ar gyfer 85% o gostau’r gwaith adeiladu.
- Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu’r 15% sy’n weddill.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
- Yn dilyn ymgynghoriad yn 2022 a 2023, rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r cynllun hwn ym mis Hydref 2023.
- Rydym ni wedi penodi contractwr a bydd gwaith ar y cynllun hwn yn dechrau fis Medi 2024.Bydd y contractwr yn gweithio o’r gorllewin yn fras (wrth ymyl Parc Gwyliau Golden Sands) ac yna i’r dwyrain (wrth ymyl Parc Gwyliau Sunnyvale).
- Disgwyliwn i’r gwaith hwn gael ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2026.
A fydd y traeth ar gau?
- Bydd, bydd y traeth ar gau i’r cyhoedd er mwyn cwblhau’r gwaith hwn yn ddiogel. Unwaith y byddwn wedi cwblhau adrannau o’r gwaith, byddwn yn ailagor y pwyntiau mynediad i’r traeth yn raddol.
A fydd llwybr yr arfordir ar gau?
- Na fydd, ond rydym yn disgwyl rhywfaint o amhariad i lwybr yr arfordir. Mae Jones Bros yn adolygu dulliau i gadw’r llwybr hwn ar agor cyn belled ag y bo modd. Bydd dargyfeiriadau ar waith yn ystod cyfnod y gwaith, ond byddwn yn ceisio sicrhau cyn lleied o’r rhain â phosibl.
A fydd y maes parcio ar gau?
- Bydd, bydd yr ardal gompownd ar gyfer y gwaith yn defnyddio’r maes parcio presennol ar y promenâd.
A fydd hyn yn effeithio ar deithio?
- Ymdrechwn i achosi cyn lleied o ymyrraeth â phosibl. Bydd danfoniadau i’r safle gan gerbydau HGV a fydd yn cael eu trefnu yn ystod oriau gwaith.
Beth yw’r oriau gwaith?
- Yr oriau gweithio arferol fydd 7am tan 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd rhai agweddau ar y gwaith yn ddibynnol ar y llanw, felly bydd rhywfaint o sifftiau cynnar a sifftiau hwyr.
- Bydd y sifftiau cynnar yn dechrau o 5am tan 6pm a’r sifftiau hwyr yn parhau tan 10pm.
A fyddwch yn gweithio yn ystod gwyliau’r haf?
- Bydd danfoniadau creigiau amddiffyn yn cael eu gohirio dros wyliau’r haf. Cynlluniwyd y gwaith hwn gan geisio sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl yn ystod gwyliau ysgol.
Tudalen nesaf: Gwelliannau i fannau cyhoeddus