Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Parc Rhos


Summary (optional)
Lleoliad ardal chwarae Parc Rhos a’r offer a’r cyfleusterau sydd ar gael.
start content

Lleoliad

Rhodfa Penrhyn
Llandrillo yn Rhos
Bae Colwyn
Conwy
LL28 4LR


Cyfleoedd Chwarae

Mae'r parc wedi cael ei uwchraddio yn ddiweddar gyda siglen fasged newydd yn yr ardal chwarae, ffens o amgylch yr ardal chwarae pêl, rhwydi tennis ac arwyneb newydd, i gyd gyda diolch i grant arian gan WREN Recycling Ltd.

Offer Chwarae:

  • Unedau aml-chwarae
  • Siglenni Crud
  • Siglenni fflat
  • Si-so
  • Powlen droelli
  • Siglen fasged
  • MUGA (Ardal Gemau Aml Ddefnydd) gyda goliau pêl-droed a rhwydi pêl fasged
  • 2 gwrt tennis (Mae racedi tenis ar gael i'w defnyddio am ddim).

Cyfleusterau:

  • Mae lawnt fowlio yn y parc a lloches.
  • Mae toiledau wedi eu lleoli ar Bromenâd Rhos, taith fer ar droed, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ddigon o gaffis a siopau.

Hygyrchedd

  • Mae'r ardal chwarae yn wastad gyda llwybrau mynediad da a giatiau.
  • Mae siglen fasged fawr y gall plant â nam symudedd eistedd neu orwedd arni a chwarae gyda'u ffrindiau.
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?