Oriau Agor
Llyfrgell:
Dydd Llun -
9:30am / 5:00pm
Dydd Mawrth -
10:00am / 7:00pm
Dydd Mercher -
9:30am / 5:00pm
Dydd Iau -
9:30am / 5:00pm
Dydd Gwener -
9:30am / 5:00pm
Dydd Sadwrn -
10:00am / 1:00pm
Archifau:
Dydd Llun
9:30am / 12:30pm
1:30pm / 4:30pm
Dydd Mawrth
9:30am / 12:30pm
1:30pm / 6:45pm
Dydd Mercher
9:30am / 12:30pm
1:30pm / 4:30pm
Dydd Iau
9:30am / 12:30pm
1:30pm / 4:30pm
Canolfan Ddiwylliant Conwy
ccc-logoMae Canolfan Ddiwylliant newydd Conwy wedi’i lleoli dafliad carreg yn unig oddi wrth furiau tref canoloesol bendigedig Conwy. Mae’r ganolfan yn cynnwys archifdy’r sir, llyfrgell ardal, arddangosfeydd treftadaeth, canolfan gelfyddydau gymunedol, ystafell gyfarfod a chaffi.
Dewch i archwilio!
Mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer archwilio hanes cyfoethog Sir Conwy. Mae’r arddangosiadau yn arwain ymwelwyr drwy bum mil o flynyddoedd o hanes ac mae’n cynnwys gwrthrychau unigryw, gwaith celf hyfryd a dehongliad rhyngweithiol sy’n addas i’r teulu cyfan.
Llyfrgell a llawer mwy; dyma loches, lle i ymlacio neu i wneud tipyn o waith. Rhywle i eistedd ac ymlacio gyda phaned a llyfr da. Ydych chi erioed wedi mynd ati i ymchwilio i hanes lleol neu hanes eich teulu? Dyma’r cyfle perffaith, gyda staff cyfeillgar wrth law i’ch helpu i ddechrau arni.
Mae’r mannau sydd wedi’u tirlunio o amgylch y ganolfan yn cynnwys gardd synhwyraidd heddychlon gyda llwybrau a seddi hygyrch sy’n ystyriol o bobl â dementia. Gallwch wrando ar leisiau lleol yn adrodd eu hanesion wrth i chi edmygu'r planhigion meddyginiaethol yn yr Ardd Berlysiau, sy'n cydnabod hanes mynachaidd cyfoethog Conwy cyn y castell.
Crynodeb o werthusiad prosiect
Rydym yn falch o’r hyn mae’r prosiect i greu Canolfan Ddiwylliant Conwy wedi’i gyflawni. Darllenwch ein crynodeb o’r gwerthusiad i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi’i gyflawni, y gwersi a ddysgwyd a’r etifeddiaeth.
Crynodeb o werthusiad - Canolfan Ddiwylliant Conwy (Microsoft Powerpoint)
Ein Noddwyr
Ariennir y Ganolfan Ddiwylliant a’r ardd synhwyraidd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru (yr Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Cymunedau LDT, Cronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.
European Agricultural Fund for Rural Development logo
logostrip