Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 22 Medi 2023.
Beth yw Teithio Llesol?
Mae teithio llesol yn golygu gwneud teithiau bob dydd drwy gerdded, beicio neu fynd ar olwynion yn hytrach na defnyddio cludant fel car neu fws. (Mae mynd ar olwynion yn cynnwys defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn.)
Mae’n fenter gan Lywodraeth Cymru i annog teithio iachach a lleihau tagfeydd traffig.
Mae teithio llesol yn cynnwys teithiau i’r gwaith, ysgol, coleg, siopau a chyfleusterau hamdden. Rhaid i lwybr teithio llesol gysylltu’r mannau hyn a bod yn addas ar gyfer teithiau bob dydd. Nid yw teithio llesol yn cynnwys llwybrau ar gyfer hamdden neu i fynd am dro yn unig.
Ein nod wrth wella a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd yw gwneud teithio llesol yn ffordd arferol o fynd o amgylch yr ardal. Mae hyn yn lleihau traffig diangen ac yn helpu teuluoedd i deithio’n ddiogel ac mewn ffordd gynaliadwy.
Er mwyn cael pethau’n iawn mae’n hollbwysig bod pobl leol yn rhan o’r sgwrs. Drwy hynny, bydd mwy o bobl yn teimlo eu bod yn gallu dewis cerdded, beicio neu fynd ar olwynion yn hytrach na defnyddio’r car i deithio pellteroedd byr yn lleol.
Ynglŷn â'r prosiect
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i hyrwyddo cynllun gwella teithio llesol wrth gylchfan cyffordd 18 yr A55 (RSPB). Bydd y llwybr yn cysylltu rhan arfordirol Llwybr Beicio Cenedlaethol Rhif 5 â Chyffordd Llandudno. Bydd yn cefnogi cynllun y Cyngor o Lan Conwy i Gyffordd Llandudno yn y dyfodol hefyd. Ar ôl eu cwblhau, bydd y cynlluniau hyn yn darparu llwybrau teithio llesol o Gonwy a Glan Conwy i Gyffordd Llandudno a Llandudno.
Bydd y cynllun yn darparu lôn feicio bwrpasol i groesi cylchfan cyffordd 18 yr A55, gan ganiatáu i gerddwyr ddefnyddio’r llwybr troed presennol. Bydd llwybr defnydd a rennir lletach yn cael ei ddarparu ar hyd Ffordd 6G yr A546, rhwng cylchfan yr A55 a chylchfan Tesco, ynghyd â man croesi i gerddwyr/beicwyr gyda signalau ar draws yr A546, i wella mynediad i Barc Hamdden Cyffordd Llandudno.
Beth yw’r problemau?
Mae Cyffordd Llandudno a Glan Conwy wedi’u cysylltu gan gefnffyrdd prysur yr A547 a’r A470. Mae diffyg cysylltiadau addas i gerddwyr a beicwyr rhwng y naill gymuned a’r llall, gyda rhannau heb balmant, mannau cul a phrinder mannau addas i groesi.
Yn y tymor byr, bydd y cynllun yn darparu llwybr teithio llesol gwell o Warchodfa RSPB ac aber Afon Conwy at gylchfan Tesco. Bydd cynlluniau sydd ar y gweill i’r gogledd a’r de (i’w cwblhau yn 2026) yn darparu llwybr sydd oddi ar y ffordd yn llwyr rhwng cymunedau Cyffordd Llandudno a Glan Conwy. Bydd hyn yn lleihau tagfeydd, yn gwella hygyrchedd, yn ei gwneud yn haws amseru siwrneiau ac yn lleihau allyriadau carbon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid i gwblhau holl waith dylunio ac adeiladu’r prosiect hwn erbyn mis Mawrth 2024.
Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:
- Llwybrau a rennir lletach ar gyfer defnyddwyr teithio llesol
- Llwybr beicio pwrpasol ar draws ochr orllewinol cylchfan Cyffordd 18 yr A55
- Creu croesfan a rennir newydd gyda goleuadau traffig ar draws yr A546 ger cylchfan Tesco
- Croesfannau heb oleuadau traffig ar draws slipffyrdd cylchfan Cyffordd 18
Sut i gymryd rhan
Cymerwch olwg ar y cynlluniau i gael mwy o fanylion am y cynigion.
Dewisiadau hygyrch
Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille. Rydym hefyd y cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.
Gallwn hefyd ddisgrifio’r llwybr ar lafar dros y ffôn. Mae gennym swyddog sy’n siarad Cymraeg a swyddog sy’n siarad Saesneg ar gael.
Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog. Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Byddwn yn dadansoddi ac yn ystyried yr holl ymatebion a gawn i’r ymgynghoriad hwn yn ofalus. Byddwn yn addasu unrhyw broblemau â'r dyluniad sy'n cael eu hamlygu drwy'r ymgynghoriad cyn inni geisio caniatâd i wneud y gwaith.
Rydym yn bwriadu dechrau’r gwaith adeiladu yn ddiweddarach eleni (2023).
Working%20on%20behalf%20of%20WG%20mono%20landscape (003)