Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dweud eich dweud


Summary (optional)
start content

Hoffem gael eich barn

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 23 Awst.

Sesiynau galw heibio: Neuadd Eglwys y Santes Fair, Rose Hill Street, Conwy, LL32 8LD ar 3 Awst 2023, rhwng 2pm a 7pm

 

Dewisiadau hygyrch

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, fersiwn print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu Braille. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn hefyd ddisgrifio’r llwybr ar lafar dros y ffôn. Mae gennym swyddog sy’n siarad Cymraeg a swyddog sy’n siarad Saesneg ar gael.

Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog. Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn yn:

  • Darllen a dadansoddi’r holl ymatebion a’u hystyried wrth arfarnu’r dewisiadau
  • Dethol y dewis gorau ar sail y sgôr arfarnu ac adrodd ynghylch hynny
  • Creu dyluniad manwl o’r dewis gorau (yn amodol ar gyllid)
  • Gwneud cais am ganiatâd cynllunio ac ati ar gyfer y dewis gorau
  • Ceisio am gyllid ar gyfer y gwaith adeiladu
  • Anelu at ddechrau adeiladu erbyn 2026 (yn amodol ar gyllid)
end content