Datblygu’r dewisiadau
Rhoes adroddiad Cam Un WelTAG ddisgrifiad clir o’r materion y mae angen mynd i’r afael â hwy yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd ynddo restr hir yn cynnwys 16 o ddewisiadau. O’r rhestr hir honno, lluniom restr fer o 4 o ddewisiadau i’w hystyried ymhellach.
Rhestr fer o ddewisiadau
Mae’r dewisiadau hyn wedi’u trafod â budd-ddeiliaid a’u dethol ar sail eu haddasrwydd i ddatrys y problemau a nodwyd.
Mae’r dewisiadau hyn oll â’r potensial i ostwng y terfyn cyflymder ar hyd yr A547 a gwella’r goleuadau a chamerâu teledu cylch cyfyng, a byddant hefyd yn cynnwys ymgyrch i wella’r berthynas rhwng cerddwyr a beicwyr ar lwybrau a rennir.
Penderfynwyd diystyru dau o ddewisiadau eraill, a fyddai’n golygu bod cerddwyr yn defnyddio’r bont grog a beicwyr yn defnyddio pont yr A547, yn sgil datblygu’r dyluniad ac ymgynghori eto â budd-ddeiliaid. Roedd pryderon ynglŷn â diogelwch beicwyr amhrofiadol yn rhannu’r ffordd â cherbydau modur, a phryderon am ddiogelwch cerddwyr hefyd. Byddai’r dewisiadau hynny hefyd wedi golygu na fyddai cerddwyr yn cael mynd ar bont yr A547, sy’n lle poblogaidd i dwristiaid dynnu lluniau.
Dewis A3 - Culhau’r lonydd traffig presennol (a cherbydau’n mynd un ffordd am yn ail)
Cost: £1,864,202

- culhau’r ffordd bresennol
- defnyddio’r lle i ledu’r llwybr presennol a rennir gan gerddwyr a beicwyr
- goleuadau i reoli’r traffig y naill ochr i’r bont, a’r traffig yn teithio i un cyfeiriad am yn ail
Darlun ymgynghori ar gyfer Dewis A3 (PDF)
Dewis C3 - Defnyddio’r Bont Grog (a beicwyr yn croesi’r A547)
Cost: £353,409

- croesfannau twcan fel y gall cerddwyr a beicwyr groesi’r ffordd
- cerddwyr a beicwyr yn defnyddio’r bont grog
- gwahardd beicwyr rhag defnyddio’r droedffordd bresennol ar bont yr A547
Darlun ymgynghori ar gyfer Dewis C3 (PDF)
Dewis D1 - Pont Un Bwa Newydd i’w Chyd-ddefnyddio
Cost: £27,806,087

- pont un bwa newydd (gydag amddiffynfeydd neu beidio) i’r gogledd o bont bresennol yr A547
- hyd at 5 metr o led a 160 metr o hyd
Darlun ymgynghori ar gyfer Dewis D1 (PDF)
Dewis D2 - Lledu Pont Bresennol yr A547 ar yr Ochr Ogleddol
Cost: £9,564,480

- lledu pont bresennol yr A547 drwy osod cantilifer ar yr ochr ogleddol i greu lle i feicwyr a cherddwyr
Darlun ymgynghori ar gyfer Dewis D2 (PDF)
Arfarnu’r dewisiadau
Rydym wedi asesu pob un o’r dewisiadau ar y rhestr fer a rhoi sgôr ar gyfer y meini prawf canlynol:
- amcanion y cynllun
- ystyriaethau cymdeithasol a diwylliannol
- ystyriaethau amgylcheddol
- ystyriaethau economaidd
Mae’r asesiadau’n cymharu pob dewis â’r sefyllfa pe byddem yn gadael pethau fel y maent heb fawr ddim ymyrraeth, ac yn ystyried unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r asesiadau hefyd yn ystyried mor addas yw pob opsiwn ar gyfer datrys y problemau a nodwyd.
Rydym wedi asesu arwyddocâd a maint yr effeithiau gan ddefnyddio graddfa saith pwynt:
Tudalen Nesaf