Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pont y Soldiwr: adborth ymgynghoriad croesfan dros yr afon


Summary (optional)
start content

Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer cynllun croesi’r afon lle mae Pont y Soldiwr ei gynnal rhwng 13 Tachwedd a 30 Tachwedd 2023.

Roedd deunyddiau’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor, fel pecyn papur i’w bostio, ac mewn digwyddiad galw heibio cyhoeddus a gynhaliwyd yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Betws-y-coed ar 17 Tachwedd 2023.

Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn datganiadau i’r wasg, ar wefan y Cyngor ac mewn posteri a llythyrau at fudd-ddeiliaid lleol.

Roedd deunyddiau’r ymgynghoriad yn egluro’r materion y byddai’r cynllun yn eu datrys, gan ddarparu pont fodern a fyddai’n hygyrch i bawb ac yn addas ac yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadair olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.

Roedd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i’r gymuned ystyried 4 dewis a rhoi adborth.

Ymatebodd cyfanswm o 172 o bobl i’r ymgynghoriad.

Y dewis a ffefrir

Er nad oedd yr holiadur yn gofyn yn benodol i ymatebwyr ddweud pa ddewis oedd orau ganddynt, roedd yr adborth a ddarparwyd yn cynnwys dewisiadau roedd pobl yn eu ffafrio.

  • Dywedodd 101 o bobl (59% o’r rhai a atebodd) mai dewis 1 roeddent yn ei ffafrio
  • Roedd 7 o bobl (4%) yn ffafrio dewis 2
  • Roedd 11 o bobl (6%) yn ffafrio dewis 3
  • Roedd 9 o ymatebion (5%) yn mynegi dymuniad i gadw’r bont bresennol

Sylwadau am y dyluniad

Fe ofynnom i bobl am eu sylwadau am y dyluniadau posib’. 

Dewis 1


Roedd yr ymatebion yn cynnwys:

  • "Dewis 1 yw’r dewis rydw i’n ei ffafrio. Mae’n edrych yn smart, yn cyd-fynd â’r bont wreiddiol ac mae iddi fwy o nodweddion diogelwch na’r dyluniad arall."
  • "Mae angen iddi fod yn ymarferol ac yn amlwg mae cynnal a chadw’n bwynt pwysig, ond mae ei gwneud yn debyg i’r bont wreiddiol yn ei gwneud yn llawer mwy o atyniad i dwristiaid a mantais ychwanegol yw y bydd llawer mwy o bobl yn gallu ei defnyddio."
  • "Hoffwn ei gweld mor agos at y dyluniad gwreiddiol â phosib’ gan gyd-fynd â’r ardal sydd o’i hamgylch. Mae’n lle mor hardd ac mae angen i’r bont adlewyrchu hynny yn fy marn i."

Dewis 2


Roedd yr ymatebion yn cynnwys:

  • "Mae’r dyluniad yn hyll ac yn ateb diben yn unig. Pam mae angen i’r ochrau fod yn strwythur solet? Bydd pobl byr yn ei chael yn anodd gweld y golygfeydd/edrych i lawr ar y dŵr."
  • "Gormod o gyfaddawd. Bydd cynnal a chadw’r bont bresennol yn ddrud. Hud y bont i raddau helaeth yw ei lleoliad – mae ail bont hyll yn gyfaddawd gwael."
  • "Hwn ydy’r dewis rydw i’n ei ffafrio. Gall yr hen bont gael ei chadw fel atyniad gweledol segur."

Dewis 3


Roedd yr ymatebion yn cynnwys:

  • "Hwn yw’r dewis taclusaf a’r hawsaf o safbwynt cynnal a chadw yn fy marn i. Mae’n amharu llai ar yr amgylchedd."
  • "Dydw i ddim yn dymuno gweld hwn. Mae’n rhy iwtilitaraidd. Mae’r bont hon mewn ardal o harddwch eithriadol. Dylai’r bont ychwanegu at yr harddwch, nid tynnu oddi arno."
  • "Dyluniad modern, di-lol, fwy neu lai fel sydd i’w weld, yn haws ac yn fwy syml i’w adeiladu, yn ymarferol a llai o waith cynnal a chadw. Hwn fyddai fy newis cyntaf i."

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?