Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybrau Teithio Llesol Newydd


Summary (optional)
Llwybrau Teithio Llesol newydd rydym ni’n gweithio arnyn nhw neu wedi’u cwblhau’n ddiweddar.
start content

Mae’r llwybrau hyn wedi’u dylunio i ddilyn Canllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae Deddf Priffyrdd 1980 yn ein galluogi ni i awdurdodi beicio ar lwybrau troed dynodedig. Byddwn yn gwneud hyn drwy osod arwyddion i ddweud wrth ddefnyddwyr y gall y llwybr gael ei ddefnyddio gan feicwyr a cherddwyr. I ddefnyddwyr sydd â nam ar y golwg, byddwn yn dynodi’r llwybr gan ddefnyddio pafin rhesog sydd i’w deimlo dan draed ar y llwybr cerdded.

Cynnwys:

  1. Craig y Don
  2. Marl Lane a Marl Drive
  3. Bae Penrhyn
  4. Gorllewin Conwy
  5. Ffordd Ysbyty, Llandudno
  6. Promenâd Rhos, Llandrillo yn Rhos
  7. Abergele: Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

Craig y Don

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar Landudno, ardal Craig y Don o Nant y Gamar Road, Roumania Drive, Queens Road, Balfour Road a Clarence Drive i Clarence Court.

Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys: 

  • Croesfan ‘sebra’ paralel ar Queens Road
  • Croesfan ‘sebra’ paralel wedi’i uwchraddio ar Clarence Crescent
  • Croesfannau ychwanegol ar gyfer cerddwyr, yn enwedig yn Ysgol y Gogarth ac Ysgol Craig y Don
  • Lledu troedffyrdd a llwybrau defnydd a rennir
  • Parthau ‘Stryd Dawel’ a marciau ffordd ychwanegol
  • Gostegu traffig ar Nant y Gamar Road, Balfour Road a diwygiadau ar Roumania Drive
  • Triniaeth ymuno ffordd ymyl ar gyfer mwyafrif y ffyrdd sy’n ymuno â’r llwybr 


Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud rhwng 30 Medi 2024 a diwedd mis Mawrth 2025.

Marl Lane a Marl Drive

Rydym wedi adeiladu cysylltiadau newydd ar gyfer y llwybr i feicwyr a cherddwyr ar hyd Marl Lane a Marl Drive. Mae’r rhain yn ardaloedd Albert Drive a Victoria Drive a ger cyffordd Nant Y Glyn ar Marl Drive.

ARDAL 1

Troed y Bwlch

(o gyffordd Tan y Fron i Vardre Close) ar hyd pen ucha’r cae chwarae i Pentywyn Road.

Pentywyn Rd

o gyffordd Marl Lane am bellter o oddeutu 130m.

Marl Lane

o’r is-orsaf i gyffordd Pentywyn Road.

Albert Drive

o gyffordd Bron y Gaer i Marl Lane.  

ARDAL 2

Victoria Drive

o gyffordd Marl Lane am bellter o oddeutu 100m. 

Marl Lane

o gyffordd Victoria Drive tuag at Marl Drive am bellter o oddeutu 60m. 

ARDAL 3

Marl Drive

o gyffordd Nant Y Glyn tuag at Marl Lane am bellter o oddeutu 90m (lle mae’r ffordd yn culhau i un lôn). 



Map - Mesurau Gostegu Traffig Arfaethedig, Marl Lane ac Marl Drive (PDF)

Mesurau Gostegu Traffig Arfaethedig Marl Lane ac Marl Drive (PDF)

Marl Drive 1 bwrdd arafu 5.8 metr o hyd, 75mm o uchder, wedi’i leoli tua 53 metr i’r gogledd o ganol y gyffordd â Nant-y-Glyn
Marl Drive • Set ddwbl o glustogau arafu, 75mm o uchder, wedi eu lleoli 25 metr i’r de ddwyrain o’r gyffordd â Victoria Drive
• Set ddwbl o glustogau arafu, 75mm o uchder, wedi eu lleoli 78 metr i’r de ddwyrain o’r gyffordd â Victoria Drive
Marl Drive Culhau’r ffordd ar gyffordd Marl Lane ac Albert Drive ar gyfer croesfan i gerddwyr





Bae Penrhyn

Ysgol Y Creuddyn ac Ysgol Glanwydden at gylchfan y B5115

 

Y llwybr sy’n rhedeg o du ôl i Ysgol Y Creuddyn i Blas Penrhyn  Hyd y llwybr
Y llwybr troed ar ochr de ddwyreiniol Plas Penrhyn O’i gyffordd â Trafford Park am bellter o 30 metr i gyfeiriad y de ddwyrain 
Y llwybr troed ar ochr ddwyreiniol Trafford Park  O’i gyffordd â Phlas Penrhyn i’w gyffordd â Ffordd Llandudno



Dyluniwyd y llwybr yn defnyddio Canllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae Deddf Priffyrdd 1980 yn ein galluogi ni i awdurdodi beicio ar lwybrau troed dynodedig. Byddwn yn gwneud hyn drwy osod arwyddion i ddweud wrth ddefnyddwyr y gall y llwybr gael ei ddefnyddio gan feicwyr a cherddwyr.

Llwybr Bae Penrhyn L/27/17/19/01 (PDF)

Gorllewin Conwy

Conwy i Barc Caer Seion

Dyluniwyd y llwybr fel y gall cerddwyr a beicwyr rannu rhan o’r llwybr troed, gyda rhai rhannau ar y ffordd ar gyfer beicwyr.

Y llwybr troed ar ochr ogleddol   Penmaen Road

 

O'i gyffordd â Ffordd Sam Parri am bellter o oddeutu 250 metr i gyfeiriad y dwyrain

Llwybr cysylltu Gerddi’r Morfa

O’i gyffordd â Mona Road a Whinacres am bellter o oddeutu 250 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain

Y llwybr troed ar ochr ddwyreiniol Morfa Drive

O’r fynedfa ogleddol i Ganolfan Chwaraeon Ysgol Aberconwy i fynedfa ddeheuol Maes Parcio Ysgol Aberconwy, pellter o oddeutu 230 metr.

Llwybr cysylltu Coed Bodlondeb

O’i fynediad i Morfa Drive at Gyrtiau Tennis Conwy, pellter o oddeutu 630 metr.

 

Llwybr Gorllewin Conwy (PDF)

Mesurau Bwriedig ar gyfer Tawelu Traffig, Conwy i Parc Cae’r Seion (PDF)

Map - Mesurau Bwriedig ar gyfer Tawelu Traffig, Conwy i Parc Cae'r Seion (PDF)

Ffordd Ysbyty, Llandudno

Dyluniwyd y llwybr fel y gall cerddwyr a beicwyr rannu rhan o’r llwybr troed, gyda rhai rhannau ar y ffordd ar gyfer beicwyr.

Map - Mesurau Bwriedig ar gyfer Tawelu Traffig, Ffordd Ysbyty, Llandudno

Maesdu Avenue:

Y llwybr troed ar ochr y dwyrain

O'i gyffordd â Ffordd Ysbyty am bellter o oddeutu 150 metr i gyfeiriad y de

 

Ffordd Ysbyty:


Y llwybr troed ar ochr y de

O'i gyffordd â Maesdu Avenue i’r gyffordd â Maesdu Road am bellter o oddeutu 315 metr i gyfeiriad y

gogledd-ddwyrain

 

Ffordd Orsedd:

Y llwybr troed ar ochr y de

Y llwybr troed ar ochr y dwyrain

O'i gyffordd â Ffordd Ysbyty am bellter o oddeutu 50 metr

 O'i gyffordd â Ffordd Ysbyty am bellter o oddeutu 25 metr

 

Maesdu Road:

Y llwybr troed ar ochr y de

 

O'i gyffordd â Ffordd Ysbyty am bellter o oddeutu 60 metr



Llwybr Ffordd Ysbyty
[PDF]

Promenâd Rhos, Llandrillo yn Rhos

Mae’r llwybr yn cynnwys croesfannau gwell, llwybrau lletach i gerddwyr a chyfleusterau parcio beiciau.

Promenâd Rhos:

Y llwybr troed ar ochr y dwyrain

O'i gyffordd â Ffordd Abbey am bellter o oddeutu 350 metr i gyfeiriad y de

 

Promenâd Rhos:

Y llwybr troed ar ochr y gorllewin

O'i gyffordd â Ffordd Rhos i’r gyffordd â Rhodfa Penrhyn am bellter o oddeutu 75 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain

 



Promenâd Rhos
(PDF)

Map - Mesurau Bwriedig ar gyfer Tawelu Traffig, Promenâd Rhos (PDF)


Abergele: Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

Bydd y cynllun yn darparu llwybr ar y cyd i gerddwyr a beicwyr o Ffordd y Môr, drwy Barc Pentre Mawr, ar hyd Maes Canol a Ffordd y Morfa i’r ysgolion. Cynlluniwyd y llwybr fel bod cerddwyr a beicwyr yn gallu rhannu rhan o’r llwybr troed. Mae’r cynllun yn dilyn Canllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. 

Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Lledu a gwella’r llwybrau a rennir
  • Gwella cyfleusterau croesi: uwchraddio’r croesfannau presennol ac ychwanegu rhai newydd
  • Gwella goleuadau stryd
  • Cyflwyno cyfyngiadau parcio (llinellau melyn dwbl) a mesurau gostegu traffig
  • Baeau parcio newydd ym Maes Canol a Ffordd y Morfa
  • Mannau croesi uchel newydd ym Maes Canol, Ffordd y Morfa a Llwyn Morfa


Map - Abergele: Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
(PDF)

Map - Tawelu Traffig Arfaethedig, Ffyrdd Amrywiol, Abergele (PDF)

Mesurau Gostegu Traffig Arfaethedig Ffyrdd Amrywiol, Abergele (Microsoft Word)

Ffyrdd Amrywiol Abergele - Gwahardd Aros

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?