Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd ddifrifol a gellir ei ystyried fel twyll, mewn rhai achosion. Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau yn erbyn camddefnyddio a thwyll Bathodyn Glas. Gellir cymryd eich bathodyn os byddwch yn ei gamddefnyddio, neu'n gadael i bobl eraill ei gamddefnyddio, neu os byddwn yn darganfod wedyn ei fod wedi'i gael yn dwyllodrus. Mae'n drosedd arddangos Bathodyn Glas os nad yw'r deiliad yn y cerbyd, neu os nad yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio i'w godi neu ei ollwng. Mae hefyd yn drosedd i bobl nad ydynt yn anabl ddefnyddio bathodyn - os gwnewch hynny, gallech wynebu dirwy o hyd at £1,000. Os nad ydych yn siŵr pryd neu ble y gallwch ddefnyddio eich bathodyn, Gallwch weld y canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Bathodyn Glas yn gywir ar wefan Llywodraeth Cymru.neu e-bostiwch bathodynglas@conwy.gov.uk am gyngor.
Enghreifftiau o gamddefnydd a thwyll:
- Dweud celwydd neu orliwio anabledd i gael bathodyn
- Gwneud neu ddefnyddio bathodyn ffug
- Defnyddio bathodyn y gwyddoch ei fod wedi'i ddwyn
- Defnyddio bathodyn pan nad yw deiliad y bathodyn yn teithio yn y car
- Defnyddio bathodyn a oedd yn eiddo i rywun a fu farw
- Camddefnyddio bae Bathodyn Glas dynodedig