Gallwch dalu am barcio ymlaen llaw drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Parcio ar 01492 576622. Neu gallwch dalu dros y ffôn yn uniongyrchol i’r Gwasanaethau Parcio yn ystod oriau swyddfa.
Ydych chi'n ddefnyddiwr rheolaidd?
Tref | Mannau | Pris y dydd | Cyfarwyddiadau a Gwybodaeth |
Betws-y-coed
Stryd yr Orsaf
|
10
|
Am ddim
|
Trowch i'r dde oddi ar Ffordd Caergybi i Stryd yr Orsaf. Mae’r safle gollwng a chodi teithwyr ger yr arcêd siopa.
|
Bae Colwyn
Parc Eirias
|
6
|
Am ddim
|
Trowch i'r dde oddi ar yr A547 Ffordd Abergele i brif fynedfa Parc Eirias.
|
Conwy
Vicarage Gardens
|
-
|
-
|
Mae dau fan ger maes parcio Vicarage Gardens ar Rosehill Street i goetsis ollwng a chodi teithwyr. Ni chaniateir aros yno am fwy na 15 munud.
|
Conwy
Morfa Bach
|
5
|
£11.00 am hyd at 4 awr
£20.00 am hyd at 24 awr
|
I barcio am gyfnod hirach, trowch i'r chwith yn y gylchfan fach ger ochr y Castell ar y B5106 Ffordd Llanrwst, a dilynwch yr arwyddion am faes parcio Morfa Bach. Mae bwa’r Castell yn rhwystro coetsis uchel rhag mynd oddi tani, ond gall y cerbydau hyn barcio ym Maes Parcio Coetsis Builder Street West yn Llandudno.
Mae talu am barcio ym Morfa Bach hefyd yn gadael i chi barcio ym Maes Parcio Coetsis Builder Street West yn Llandudno. Cadwch eich tocyn fel prawf o’ch taliad.
|
Llandudno
Mostyn Broadway
|
-
|
£11.00 am gyfnod tra’n gollwng a chodi teithwyr.
|
Dim ond gollwng a chodi teithwyr y mae coetsis yn cael ei wneud ym maes parcio coetsis Mostyn Broadway.
|
Llandudno
Builder Street
|
Hyd at 120
|
£10.00 am hyd at 4 awr
£20.00 am hyd at 24 awr
|
Mae parcio am gyfnod byr a chyfnod hir ar gael ym maes parcio coetsis Builder Street.
Mae yna ffensys terfyn allanol o gwmpas maes parcio coetsis Builder Street a chynhelir patrolau rheolaidd yno yn ystod y nos. Mae camera teledu cylch cyfyng wedi’i osod i adnabod coetsis sy'n mynd i mewn ac allan o’r maes parcio.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys toiledau a lle golchi coetsis. Mae talu am barcio yn Builder Street hefyd yn gadael i chi barcio ym Morfa Bach Conwy. Cadwch y tocyn fel prawf o’ch taliad.
|