Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Treforris Road Dwygyfylchi) (Traffig Unffordd) 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”), gan ymarfer ei bwerau dan Adrannau 1 a 2 (a Rhan IV Atodlen 9) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “Deddf 1984") a'r holl bwerau galluogol eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn :-
- 1. Ni chaiff unrhyw un, heblaw am dan gyfarwyddyd neu â chaniatâd swyddog o'r heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd deithio ar hyd y darn ffordd a nodwyd yng Ngholofn 1 o'r Atodlen isod, ar wahan i gyfeiriad a nodwyd yng Ngholofn 2 yr Atodlen honno.
- 2. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Ebrill 2023 a gellir ei ddyfynnu fel Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Treforris Road Dwygyfylchi) (Traffig Unffordd) 2023.
Atodlen
Atodlen
Colofn 1 (Y Darn o Ffordd) | Colofn 2 (Cyfeiriad Teithio) |
Treforris Road: o’i gyffordd â Cae Cyd Road i’w gyffordd â Conwy Old Road |
Gorllewinol |
RHODDWYD dan Sêl Gyffredfin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 14eg dydd o Ebrill 2023.
TROSeal181180
Tudalen Nesaf: Map