Cyfeirnod: CCBC - 046522
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd) (Rhif 1) 2023
Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y Gorchymyn a enwir uchod dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 a fydd yn dynodi'r darnau o ffordd a nodwyd yn Atodlen 1 fel Gofod Parcio i Bobl Anabl i'w ddefnyddio gan gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Anabl dilys a Thrwydded Preswylydd yn unig a dirymu’r cyfyngiadau a nodwyd yn Atodlen 2
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a map, a ddaw i rym ar 24 Gorffennaf 2023 ar wefan y Cyngor. Os ydych yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu ddilysrwydd unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys ynddo, ar y sail nad yw'n cyfateb i’r pwerau a roddir dan Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, neu oherwydd nad yw’r Gorchymyn yn cydymffurfio ag un o amodau'r Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed dan y ddeddf, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys i'r perwyl hwn o fewn chwe wythnos i ddyddiad y rhybudd hwn.
Atodlen 1 - Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig
15 Park Way, Llandrillo-yn-Rhos
- Ochr y gorllewin: o’i bwynt olaf am bellter o 3.4 milltir i gyfeiriad y de a 6.6 metr i gyfeiriad y dwyrain.
15 Clifton Road, Llandudno
- Ochr y gorllewin: o bwynt 108 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Gloddaeth Street am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y dwyrain.
5 Clifton Road,Llandudno
- Ochr y gorllewin: o bwynt 33 metr i’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â Lloyd Street am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.
Augusta Street i 17 Brookes Street, Llandudno
- Ochr y de: o bwynt 7 metr i’r dwyrain o’i chyffordd ag Albert Street am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y dwyrain.
71 Heol Scotland, Llanrwst
- Ochr y gogledd orllewin: o bwynt 38m i’r gorllewin o’i chyffordd â Talybont Road am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain.
28 Ddôl Du, Bae Colwyn
- Ochr y gogledd; o bwynt 32 metr i’r dwyrain o’i chyffordd am bellter o 3.4 metr.
25 Grove Park, Bae Colwyn
- Ochr y de: o bwynt 22 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Beech Mount am bellter o 6.6 metr tua’r dwyrain.
8 Llewelyn Street, Conwy
- Ochr y dwyrain: o bwynt 8 metr i’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â’r Stryd Fawr am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.
2B Colwyn Crescent, Llandrillo-yn-Rhos
- Ochr y dwyrain: o bwynt 20 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Rhos Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.
Atodlen 2 - Dirymiadau
Park Way, Llandrillo-yn-Rhos
- Ochr y dwyrain: o bwynt 15 metr i’r de o’i bwynt olaf am bellter o 2.4 metr tua’r de.
19 Ffordd Penrhos, Bae Colwyn
- Ochr y gogledd: o bwynt 75m i’r gorllewin o’i chyffordd â Phromenâd y Gorllewin
1 Ffordd Norman, Llandudno
- Ochr y de-ddwyrain: o bwynt 15 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Lôn Howard am bellter o 6.6 metr.
25 Dundonald Road, Bae Colwyn
- Ochr y de: o bwynt 78 metr i’r gorllewin o’i chyffordd ag Upland Road.
28 Ddôl Du, Bae Colwyn
- Ochr y dwyrain: o bwynt 3 metr i’r gorllewin o bwynt olaf y ffordd bengaead am bellter o 3 metr i gyfeiriad y dwyrain.
13 Hawarden Road, Bae Colwyn
- Ochr y gorllewin: o bwynt 67 metr i’r de-orllewin o’i chyffordd â Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn.
3 East Parade, Craig Y Don, Llandudno
- Ochr y de: o bwynt oddeutu 43 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Ffordd y Frenhines, Craig y Don.
11 Ffordd Glan y Môr, Cyffordd Llandudno
- Ochr y de: o bwynt 60 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Ferry Farm Road.
5 Park Road Cottages, Ffordd y Llan, Llysfaen
- Ochr y de: o ffin orllewinol eiddo rhif 5 Park Road Cottages am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y dwyrain.
4 Ddôl Ddu Isaf, Ffordd Llanelian, Bae Colwyn
- Ochr y gorllewin: o bwynt 46.2 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Dôl Eilian am bellter o 3.6 metr i gyfeiriad y gogledd.
Dyddiedig: 19 Gorffennaf 2023
CeriWilliamsSignature
Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen Nesaf: Gorchymyn