Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffyrdd Amrywiol Deganwy/Cyffordd Llandudno: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:-
  • cynnal llif esmwyth traffig, gwella diogelwch ar y ffyrdd a diogelu amwynder yr amgylchedd
start content

GORCHYMYN BWRDEISTREF SIROL CONWY (FFYRDD AMRYWIOL DEGANWY/CYFFORDD LLANDUDNO) (GWAHARDD A CHYFYNGU AR AROS) 2024

Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1 a 2 (a Rhan IV Atodlen 9), Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori efo Prif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor") yn gwneud drwy hyn y Gorchymyn canlynol:-

  • 1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y      dydd o Dwy fil a phedaur ar hugain a gellir ei ddyfynnu fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Ffyrdd Amrywiol Deganwy/Cyffordd Llandudno) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2024."
  • 2.
    • (1) Yn y Gorchymyn hwn:- mae "safle tacsis awdurdodedig" yn golygu unrhyw ran o ffordd gerbydau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1028.2 yn Atodlen 6 Rheol-iadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Trafnidiaeth Ffyrdd 2016;
      • mae "lle parcio awdurdodedig" yn golygu unrhyw le parcio, ar ffordd, sydd wedi ei awdur-dodi neu wedi ei ddynodi gan Orchymyn sydd wedi ei wneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi cael ei wneud dan y Ddeddf honno;
      • mae "safle bysiau" yn golygu unrhyw ddarn o ffordd gerbydau a ddynodir mewn unrhyw Erthygl neu Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel un sydd wedi ei fwriadu ar gyfer aros gan fysiau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1025.1, 1025.3 neu 1025.4 yn Atodlen 6 Rheoliadau Arwyddion Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016;
      • mae gan "cerbyd hacni" yr un ystyr ag sydd gan "hackney carriage" yn Adran 38(1) Deddf Cerbydau (Tollau) 1971;
      • mae gan "bathodyn unigolyn gydag anabledd" yr un ystyr ag sydd gan "disabled person's badge" yn Rheoliadau Pobl Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;
      • mae gan "disg parcio" yr un ystyr ag sydd gan "parking disc" yn Rheoliad Rhif 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Esgusodiadau ar gyfer Pobl Gydag Anabl-edd) (Cymru) 2000;
      • “Trwydded Parcio Dilys" yn golygu trwydded a gyhoeddir gan Awdurdod yr Harbwr i ganiatáu i gerbydau sy'n dwyn trwydded o'r fath i barcio yn y man penodol hwnnw
    • (2) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol:
      • (a) pan nad yw'r bathodyn wedi peidio â bod mewn grym; a
      • (b)
        • (i) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
        • (ii) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar flaen neu ar ochr agos y cerbyd (os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau), fel bod modd darllen blaen y bathodyn yn glir o'r tu allan i'r cerbyd.
    • (3) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol:
      • (a) pan fo'r disg yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
      • (b) pan fo'r disg yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y cerbyd, os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau.
    • (4) Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
  • 3. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 6 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn.
  • 4. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lif-rai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.00am i 9:30am a 2:30pm i 4.00pm (yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig)  ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 2.
  • 5. Mae Gorchymyn Cadarnhau (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llefydd Parcio ar y Stryd) 2006 yn cael ei ddiddymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cyfyngiadau a os-odir ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 3 o'r Gorchymyn hwn yn unig a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall
  • 6.
    • (1) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 a 4  y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ang-hyfreithlon i achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darn(au) ffordd a gyf-eirir atynt yn yr Erthyglau hynny, am gyhyd ag y bydd angen i ganiatáu:-
      • (a) Unigolyn i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan ohono.
      • (b) Nwyddau i gael eu llwytho ar y cerbyd neu gael eu dadlwytho oddi arno.
      • (c) defnyddio’r cerbyd, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau canlynol, sef:-
        • (i) Gweithrediadau adeiladu, dymchwel neu ddiwydiannol.
        • (ii) Symud unrhyw rwystr ar draffig.
        • (iii) Cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn[au] ffordd dan sylw.
        • (iv) Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar dir cyfagos i’r darn(au) ffordd dan sylw, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dwr neu drydan, neu unrhyw offer telegyfathrebu fel y mae'r rheiny'n cael eu diffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984.
      • (ch) Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.
      • (d)    Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasan-aethau Post 2000
      • (dd) Galluogi'r cerbyd i aros gerbron neu yn agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos iddynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.
      • (e) Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i bwrpasau brigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.
    • (2) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 a 4 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ang-hyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd unigolyn gydag anabledd sy'n arddangos, yn y lle perthnasol, fathodyn unigolyn gydag anabledd a disg parcio (lle mae'r gyrrwr, neu unigolyn arall sydd â gofal am y cerbyd, wedi nodi'r amser y dechreuodd y cyfnod aros) aros ar y darn[au] ffordd a gyfeiriwyd atynt yn yr Erthyglau hynny am gyfnod o ddim mwy na 3 awr (ar yr amod bod cyfnod o ddim llai nag 1 awr wedi mynd heibio ers diwedd unrhyw gyfnod blaenorol o aros gan yr un cerbyd ar yr un diwrnod).
  • 7. Pan fo unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gwrthdaro ag amod sydd wedi ei gynnwys mewn Gorchymyn sydd wedi ei wneud, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi ei wneud, dan Ddeddf 1984, ac sydd mewn grym pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ac sy'n gosod cyfyngiad neu waharddiad ar gerbydau heblaw bysiau neu goetsys cyflym mewn arhosfan bysiau, neu'n esgusodi rhag cyfyngiad neu waharddiad o'r fath, darpariaeth y Gorchymyn hwnnw fydd drechaf.
  • 8. Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu gan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

 

Atodlen 1 - Dim aros ar unrhyw adeg

 

 

Gilfach, Nant y Glyn, Cyffordd Llandudno

Ar bob ochr; o’r man pellaf i’r gorllewin am 24 tua’r dwyrain

TL/11/14/24/01

Bryn Derw, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o’r gyffordd â Maes Derw am 10 metr tua’r gogledd ddwyrain

TL/11/14/24/02

Maes Derw, Cyffordd Llandudno

Ochr y gogledd; o fan 13 metr i’r gorllewin o’r gyffordd â Bryn Derw am 26 metr tua’r dwyrain

TL/11/14/24/02

Broad Street, Cyffordd Llandudno

Ochr y de; o fan 8 metr i’r gorllewin o’r gyffordd â Phlas Tre Marl am 16 metr tua’r dwyrain 

Ochr y dwyrain; o fan 6 metr i’r gogledd o’r gyffordd â Bryn Tirion Terrace am 12 metr tua’r de.

TL/11/14/24/03

Bryn Tirion Terrace, Cyffordd Llandudno

Ochr y gogledd;  o’r gyffordd â Broad Street am 15 metr tua’r dwyrain

TL/11/14/24/03

Clos Belyn, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o fan 34 metr i’r gorllewin o’r gyffordd â Marl Drive hyd ben draw’r ffordd bengaead sydd gyfochrog ag eiddo Rhif 1 ac am 10 metr tua’r gorllewin ar hyd Clos Belyn.

TL/11/14/24/04

Marl Lane, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o’r gyffordd â Ffordd y Cymry Brenhinol am 102 tua’r dwyrain, ac yna’r de

TL/11/14/24/05

McKinley Road, Cyffordd Llandudno

Ochr y gorllewin; o’r gyffordd â Roosevelt Terrace am 15 metr tua’r gogledd ddwyrain

TL/11/14/24/06

Roosevelt Terrace, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o’r gyffordd â McKinley Road am 2 fetr

TL/11/14/24/06

Ffordd Glan y Môr, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o fan 21 metr i’r gogledd orllewin o’r gyffordd â Ferry Farm Road am 38 metr tua’r de ddwyrain

Ochr y de; o fan 27 metr i’r gorllewin o’r ffordd fynediad at yr archfarchnad am 77 metr tua’r dwyrain

Ochr y gogledd; o fan 19 metr i’r gorllewin o’r ffordd fynediad at yr archfarchnad am 124 metr tua’r dwyrain

TL/11/14/24/15,

TL/11/14/24/13 

Ferry Farm Road, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr;  o’r gyffordd â Ffordd Glan y Môr am 8 metr tua’r gogledd ddwyrain

TL/11/14/24/15

Lôn y Gyffordd, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o fan 91 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Ffordd 6G am 115 metr

TL/11/14/24/07

Narrow Lane, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o’r gyffordd â Phen Dyffryn am 14 metr tua’r gogledd

TL/11/14/24/08

Pen Dyffryn, Cyffordd Llandudno

Ochr y gogledd orllewin; o fan 15 metr i’r gorllewin o’r gyffordd â Narrow Lane am 30 metr tua’r dwyrain

TL/11/14/24/08

Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno

Y naill ochr; o’r gyffordd â Narrow Lane am 110 tua’r gogledd ddwyrain

Y naill ochr; o’r gyffordd â Ffordd Fynediad yr Ysgol am 10 metr tua’r de

TL/11/14/24/09

Conway Road, Cyffordd Llandudno

Ochr y gogledd; o fan 12 metr i’r gorllewin o’r gyffordd â Threm yr Afon am 50 metr tua’r gorllewin

Ochr y de; o fan 13 metr i’r de ddwyrain o’r gyffordd â Gwêl yr Afon am 5 metr tua’r gogledd orllewin

TL/11/14/24/10

Ffordd y Parc Busnes, Cyffordd Llandudno

Ochr y gorllewin; o fan 29 metr o’r gyffordd ag A546 Ffordd Conwy at y pen pellaf i’r gogledd

Ochr y dwyrain; o’r man pellaf i’r gogledd am 60 metr  

TL/11/14/24/12

Ffordd Maelgwyn, Cyffordd Llandudno

Ochr y gogledd; o fan 10 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynediad y Parc Carfanau am 61 metr tua’r gorllewin 

TL/11/14/24/14

Ffordd Fynediad Gwarchodfa Natur Glan Conwy

Ochr y gorllewin; o’r gyffordd â chyffordd 18 Cefnffordd yr A55 am 80 metr tua’r de ddwyrain

Ochr y dwyrain; o’r gyffordd â chyffordd 18 Cefnffordd yr A55 am 90 metr tua’r de ddwyrain

TL/11/14/24/11

Sefton Terrace, Deganwy

Ochr y de; o fan 15 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Beach Road am 7 metr tua’r dwyrain

TL/11/09/24/01

Marine Crescent, Deganwy

Ochr y gogledd; o’r gyffordd â Station Road am 53 metr tua’r de orllewin

Ochr y de; o’r gyffordd â Station Road am 48 metr tua’r de orllewin

TL/11/09/24/03

Peniel Street, Deganwy

Y naill ochr; o’r gyffordd â Tŷ Mawr Road am 8 metr tua’r gogledd ddwyrain

Ochr y dwyrain; o fan 13 metr i’r gorllewin o’r gyffordd â’i hun wrth ymyl eiddo Rhif 4, am 22 metr tua’r gogledd ddwyrain

Y naill ochr; o’r gyffordd â’i hun wrth ymyl eiddo Rhif 4, am 9 metr tua’r dwyrain

Y naill ochr; o’r gyffordd â Maelgwyn Drive am 5 metr tua’r gogledd orllewin

TL/11/09/24/04

Tŷ Mawr Road, Deganwy

Ochr y dwyrain; o fan 16 metr i’r de ddwyrain o’r gyffordd â Peniel Street am 33 metr tua’r gogledd orllewin

TL/11/09/24/04

Maelgwyn Drive, Deganwy

Ochr y gogledd ddwyrain; o fan 8 metr i’r dwyrain o’r gyffordd â Peniel Street am 26 metr tua’r de orllewin

TL/11/09/24/04

Overlea Avenue, Deganwy

Ochr y dwyrain; o fan 10 metr i’r gogledd orllewin o’r gyffordd â St Hilary’s Drive am 30 metr

TL/11/09/24/07

St Hilarys Drive, Deganwy

Y naill ochr; o’r gyffordd ag Overlea Avenue am 4 metr

TL/11/09/24/07

Overlea Avenue, Deganwy

Ochr y gogledd; o’r gyffordd â St George’s Drive am 25 metr tua’r de ddwyrain

Ochr y de; o’r gyffordd â St George’s Drive am 36 metr tua’r de ddwyrain

TL/11/09/24/02

St George’s Drive, Deganwy

Ochr y dwyrain; o fan 10 metr i’r gogledd o’r gyffordd ag Overlea Avenue am 23 metr tua’r de

TL/11/09/24/02

 

Atodlen 2  - Dim aros o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.00am tan 9:30am a 2:30pm tan 4.00pm (yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig)  

Park Drive, Deganwy

Ochr y gogledd ddwyrain; o fan 10 metr i’r de o’r gyffordd â Heulfryn at fan 14 metr i’r gogledd orllewin o’r gyffordd â Ffordd Pentywyn

TL/11/09/24/05

 

Atodlen 3  - Diddymu’r cyfyngiad ar aros yn hwy na 30 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 9am-5pm, a pheidio â dychwelyd o fewn 60 munud

Station Road, Deganwy

Ochr ogleddol y ffordd gerbydau o fan 46 metr i’r gogledd orllewin o’r gyffordd â Tŷ Mawr Road am 21 metr

TL/11/09/24/06

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y       dydd o Dwy fil a phedair ar hugain

Cyflawnwyd fel Gweithred trwy osod

SÊL GYFFREDIN 

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY

yng ngŵydd :-

Swyddog Selio Awdurdodedig


Tudalen Nesaf: Map

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?