Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Talu am Wahanol Anfonebau Bilio Electronig - Gwahanol Anfonebau

Bilio Electronig - Gwahanol Anfonebau


Summary (optional)
Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach gynnig y dewis i chi dderbyn eich Gwahanol Anfonebau mewn e-bost yn hytrach na thrwy'r post.
start content

Sut mae trefnu fy mod yn derbyn fy Ngwahanol Anfonebau mewn e-bost?

Yna, byddwn yn cadarnhau mewn e-bost ein bod wedi cael eich cais.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn ymuno â'r cynllun bilio electronig?

  • Byddwch yn derbyn eich anfoneb, nodiadau atgoffa a hysbysiadau terfynol (os yn berthnasol) mewn e-bost. Anfonir yr hysbysiadau hyn mewn dogfennau PDF
  • Bydd modd i chi argraffu eich anfoneb os dymunwch
  • Os nad ydych wedi dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol gallwch dalu eich anfoneb yn ddiogel ar-lein trwy ddilyn y ddolen gyswllt sydd ynghlwm wrth yr anfoneb y byddwn wedi ei anfon atoch mewn e-bost
  • Os byddwch yn newid eich cyfeiriad e-bost bydd modd i chi roi gwybod i ni trwy lenwi'r ffurflen ar-lein Gwahanol Anfonebau - bilio electronig yn nodi eich manylion newydd.

Sut ydw i'n rhoi'r gorau i filio electronig?

Nodwch os bydd unrhyw hysbysiadau y byddwn yn eu hanfon atoch mewn e-bost yn cael eu dychwelyd atom fel rhai sydd heb eu derbyn, byddwn yn dileu eich cais am filio electronig yn awtomatig ac yn anfon unrhyw ohebiaeth atoch yn y dyfodol trwy'r post. Os byddwch wedyn yn dymuno derbyn eich anfonebau trwy e-bost eto bydd rhaid i chi ailgyflwyno ffurflen ar-lein Gwahanol Anfonebau - bilio electronig gan gadarnhau eich manylion e-bost cywir.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?