Mae Chwarel Penmaenmawr yn cynhyrchu carreg ingneaidd galed, sy'n cael ei defnyddio ar gyfer balast rheilffordd, fel cerrig ffyrdd a gwneud concrid.
Chwarel Merllyn (Raynes) ger Bae Colwyn yw'r unig un yng Ngogledd Cymru sydd â chei. Mae'n cynhyrchu carreg galch ar gyfer y farchnad leol a hefyd i'w gludo ar longau ymhellach i ffwrdd.
Mae Chwarel Llansan Siôr ger Abergele hefyd yn cynhyrchu carreg galch, yn bennaf ar gyfer y farchnad leol.
Mae mwynau sy'n cael eu defnyddio mewn adeiladwaith yn cael eu galw'n agregau. Mae Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol ar gyflwr cynhyrchu agregau.