Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhwymedigaethau Cynllunio - Cytundebau Adran 106, Ardoll Seilwaith Cymunedol a Hyfywedd


Summary (optional)
start content

Gall rhai datblygiadau achosi niwed i'w hamgylcheddau, neu gynyddu pwysau ar isadeiledd ffisegol a chymdeithasol mewn cymunedau.

Gallwn ni, yr Awdurdod Cynllunio Lleol, ofyn i’r ymgeisydd neu’r datblygwr ddarparu cyfleusterau (fel man agored cyhoeddus) neu wneud gwelliannau (fel gwneud cyffordd yn fwy diogel) i osgoi neu leihau’r effeithiau negyddol hyn a gwneud y datblygiad yn dderbyniol.

Gallwn ni hefyd ofyn i ymgeiswyr dalu arian yn lle hynny, y gallwn ei ddefnyddio i wneud gwelliannau neu ddarparu cyfleusterau.  Gelwir hyn yn ‘Rhwymedigaeth Cynllunio’ a chaiff ei drafod drwy’r broses cais cynllunio.  Ni ellir rhoi caniatâd cynllunio tan fod cytundeb cyfreithiol (a elwir yn Gytundeb Adran 106 neu A106) wedi’i lofnodi.

Rydym ni wedi cynhyrchu Nodyn Cyfarwyddyd i'w lawrlwytho, sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau cynllunio, yn cynnwys gwybodaeth am bolisi cynllunio cenedlaethol.  I gael rhagor o wybodaeth am Gytundebau A106, y balansau sydd ar gael a sut y caiff yr arian ei wario ar y dudalen Adroddiadau A106 ac yn y protocol gwariant A106 sydd ar gael i'w lawrlwytho.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu ar gyfer costau rhwymedigaethau cynllunio a chostau datblygu eraill wrth ddylunio datblygiad a thrafod prynu tir. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn ar y dudalen Hyfywedd.

Gallwn ni hefyd ddefnyddio Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) pan fyddwn ni wedi mabwysiadu atodlen codi tâl ASC.  Mae hwn yn dâl penodol fesul metr sgwâr ar rai mathau o ddatblygiadau.  Os oes gennym ni atodlen codi tâl ASC mabwysiedig, ni allwn ofyn am gyfraniadau tuag at yr un pethau drwy A106.  Nid oes gennym ni atodlen codi tâl ASC ar hyn o bryd. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ASC ar y dudalen Ardoll Seilwaith Cymunedol.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?