1 Help i ddod o hyd i safle addas
A ydych yn ei chael yn anodd dod o hyd i leoliad addas ar gyfer eich busnes newydd neu bresennol? P'un a ydych yn chwilio am unedau busnes, adeiladau swyddfa neu dir, gall Timau Busnes a Menter a Pholisi Cynllunio Strategol gynorthwyo. Yn syml, darllenwch y Protocol Tir Cyflogaeth sy’n amgaeedig a dilyn y camau a gynhwysir ynddynt.
2 Cyflwyno safle
Ydych chi eisoes â safle mewn golwg ond yn ceisio meddwl a yw'n addas o ran cynllunio ar gyfer y defnydd a fwriedir? Trwy glicio ar y ddolen gyswllt isod, gallwch gyflwyno eich safle i'r Tîm Gwasanaeth Polisi Cynllunio Strategol a fydd yn gallu rhoi rhywfaint o gyngor sylfaenol ar gyfyngiadau neu bolisïau sy'n berthnasol i'r safle dan sylw.
3 Cyngor cyn cyflwyno cais (mae ffioedd yn gymwys am y gwasanaeth hwn)
Rydych wedi dewis safle ar gyfer eich busnes, ond fe hoffech gyngor cynllunio mwy manwl cyn cyflwyno cais. Os felly, gallwch gysylltu â'r Tîm Rheoli Datblygu ar gwasanaethau.rheoleiddio@conwy.gov.uk a chyflwyno Ymholiad Cyn Cyflwyno Cais
4 Hyfywedd a rhwymedigaethau cynllunio
Os ydych yn cyflwyno tir ar gyfer datblygiad tai neu gynllun defnydd cymysg, efallai y byddwch yn ansicr ynglŷn â lefelau'r rhwymedigaethau cynllunio y bydd eu hangen a hyfywedd cyffredinol y cynllun. Mae Gwasanaeth Hyfywedd Datblygu yn gweithredu lle gall Gwasanaeth Polisi Cynllunio Strategol wneud cyfrifiad hyfywedd a fydd yn dangos yr ymrwymiad cynllunio tebygol a chyfraniadau tai fforddiadwy sydd eu hangen fel rhan o gynllun. (Mae ffioedd yn gymwys am y gwasanaeth hwn)
Prosbectws Tir Cyflogaeth
Nodyn Canllaw Protocol Tir Cyflogaeth