Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Ymgynghoriadau gwastraff Ymgynghoriad gorsaf trosglwyddo gwastraff Cyffordd Llandudno

Ymgynghoriad gorsaf trosglwyddo gwastraff Cyffordd Llandudno


Summary (optional)
Gadewch i ni wybod beth yw eich barn ar y cynigion ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff.
start content

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 28 Tachwedd 2023.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff ar Ffordd Maelgwyn.  Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio o 31 Hydref tan 28 Tachwedd 2023 i ddeall ein barn ar gynigion y datblygiad.

Sefyllfa bresennol

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn gweithredu Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau ar Ffordd Bron y Nant, Mochdre.  Mae’r safle yn storio gwahanol fathau o wastraff, o finiau sbwriel, deunydd a ysgubwyd o’r stryd a gwastraff sydd wedi ei dipio’n anghyfreithlon, ac yna’n eu trosglwyddo i’w trin, prosesu neu waredu.

Ers 2019, mae gwastraff y Sir nad ellir ei ailgylchu wedi ei drin ym Mharc Adfer, y safle Ynni o Wastraff rhanbarthol newydd yng Nglannau Dyfrdwy.  Mae hyn yn golygu gollwng casgliadau gwastraff cartref a masnachol mewn gorsaf trosglwyddo gwastraff preifat a’u rhoi mewn llwythi mwy i’w trosglwyddo i Lannau Dyfrdwy.  Cyn 2019, roedd cerbydau casglu ysbwriel yn dosbarthu gwastraff yn uniongyrchol i safle tirlenwi Llanddulas ac nid oedd angen gorsaf trosglwyddo gwastraff.

Rydym yn cynnig gorsaf trosglwyddo gwastraff newydd i gyfuno cyfleuster ailgylchu deunyddiau Mochdre a chyfleuster trosglwyddo gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Beth yw’r cynigion?

Mae gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn weithrediadau glân.  Mae’r safonau cydymffurfiaeth amgylcheddol ar gyfer safleoedd newydd yn nodi fod angen i unrhyw le ble mae gwastraff yn cael ei adael, ei storio, ei brosesu neu ei drin, fod o dan do.  Byddai’r orsaf trosglwyddo gwastraff yn debyg i gyfleusterau o fath storio masnachol effaith isel gan y byddai bob man ble mae gwastraff yn cael ei drin o dan do.

Mae’r cynigion rydym yn ymgynghori arnynt yn cynnwys adeilad depo, adeiladau allanol a swyddfeydd safle, gyda mannau parcio a phontydd pwyso.

Bydd cyfuno’r ddau weithrediad i leoliad canolog yn cynnal effeithlonrwydd a lleihau amser teithio ar gyfer cerbydau gwastraff, glanhau strydoedd, parciau a phriffyrdd.  Bydd staff, peiriannau a rheolwyr presennol y Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau yn symud i’r safle newydd.

Argraffiadau'r arlunydd

Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyffordd Llandudno: Argraffiad yr arlunydd

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr holl adborth y byddwn yn ei dderbyn o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus cyn y byddwn yn gwneud cais am y caniatâd rydym ei angen i wneud y gwaith.

Dewisiadau hygyrch:

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille.  Rydym hefyd y cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn ddarparu disgrifiad llafar o'r cynigion dros y ffôn.  

Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog.  Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.

Gallwch hefyd gysylltu â ni i ofyn am gopi papur o’r ymgynghoriad.  Bydd lluniau yn cael eu darparu mewn maint A3, oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn print bras.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?