Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Gofalwyr Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i Ofalwyr

Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i Ofalwyr


Summary (optional)
Gofalwr yw rhywun sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl. Gall Gofalwyr fod o unrhyw oed ac nid oes raid iddynt fyw gyda'r unigolyn y maent yn gofalu amdano.
start content

Mae llawer o Ofalwyr yn berthnasau, ffrindiau neu gymdogion y bobl maent yn gofalu amdanynt ac efallai nad ydynt yn ystyried eu hunain fel Gofalwyr, ond efallai eu bod wedi bod yn gofalu am rywun am amser hir. 

Gall bod yn Ofalwr fod yn werth chweil, ond ar adegau gall hefyd deimlo'n llethol a beichus, ond mae cefnogaeth ar gael. 

Efallai y bydd gan Ofalwyr hawl i gael cefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a sefydliadau eraill.

Cysylltwch â ni ar 0300 456 1111 i gael rhagor o wybodaeth, neu edrychwch ar y dolenni isod:

Cefnogwyr Gofalwyr

Rôl Cefnogwr Gofalwyr yw cynnal a chryfhau proffil Gofalwyr o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a hyrwyddo Gofalwyr o fewn blaenoriaethau corfforaethol a gwasanaethau’r Cyngor er mwyn sicrhau bod Gofalwyr yn cael y gydnabyddiaeth briodol.   

Y Cynghorydd Cheryl Carlisle yw’r Cefnogwr Gofalwyr presennol.

Efallai y gall y sefydliadau canlynol ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi:

 

Gwybodaeth Ychwanegol

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?