Beth yw Partneriaeth Pobl Conwy?
Mae Partneriaeth Pobl Conwy yn grŵp cynllunio strategol sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n ymwneud â’r holl gymunedau yng Nghonwy.
Gweledigaeth Conwy ar gyfer y bartneriaeth yw 'Gweithio Gyda'n Gilydd dros Les'.
Beth mae'r bartneriaeth yn ei wneud
Yma yn y bartneriaeth rydym yn gweithio i sicrhau bod yr holl bobl a chymunedau yng Nghonwy yn cael eu trin yn deg ac yn unol â'u hanghenion.
Pwy sy'n cymryd rhan ym Mhartneriaeth Pobl Conwy?
Mae sefydliadau’n cynnwys:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Heddlu Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Am restr lawn o aelodaeth Bwrdd PPC a’r COG cysylltwch â'r tîm: ppc@conwy.gov.uk
Sut i gysylltu â ni:
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
E-bost: ppc@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574077
Beth sydd wedi bod yn digwydd?
Ein newyddlen yw'r ffordd orau i gael y newyddion diweddaraf gan y bartneriaeth a'r asiantaethau partner, os hoffech gael ein bwletin e-bost rheolaidd rhowch wybod i ni: ppc@conwy.gov.uk