Os ydych chi’n gweld, neu’n amau, fod plentyn sy’n byw yn sir Conwy yn cael ei gam-drin, peidiwch ag anwybyddu hyn. Cysylltwch â ni i rannu’ch pryderon:
Mathau o gam-drin
Mae sawl math gwahanol o gam-drin neu esgeulustod:
Cam-drin corfforol
- Cael eu taro neu eu slapio
- cael y feddyginiaeth anghywir ar bwrpas
- cael eu cloi neu eu clymu yn rhywle, neu eu gorfodi i fwyta.
Cam-drin rhywiol
- cael eu cyffwrdd neu eu cusanu pan nad ydynt eisiau hyn
- cael eu gorfodi i gyffwrdd neu gusanu rhywun arall
- cael eu gorfodi i wylio pornograffi
- cael eu treisio
- cael rhywbeth (e.e. anrhegion neu arian) o ganlyniad i gyflawni gweithredoedd rhywiol na allent gytuno neu ni wnaethant gytuno i’w gwneud.
Cam-drin emosiynol
- cael eu bygwth
- ddim yn cael unrhyw ddewisiadau
- cael eu bwlio
- cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn fwriadol am amser hir
- cael eu poenydio.
Cam-drin ariannol
- arian neu eiddo personol yn cael ei ddwyn
- cael eu twyllo allan o fudd-daliadau
- benthyca arian i rywun nad ydynt yn ei dalu yn ôl
- cael eu bwlio i adael i bobl eraill ddefnyddio cardiau credyd neu sieciau.
Esgeulustod
- ddim yn cael digon i fwyta neu yfed
- cael eu gadael mewn dillad budur neu wlyb
- cael y feddyginiaeth anghywir, neu ddim yn cael meddyginiaeth o gwbl
- rhywun ddim yn galw meddyg neu nyrs pan fo angen cymorth.
Cam-drin gwahaniaethol
- anwybyddu credoau crefyddol
- gwneud sylwadau neu jôcs am anabledd, hil neu rywioldeb unigolyn
- peidio â darparu bwyd i fodloni anghenion dietegol.
Cam-drin sefydliadol
- digwyddiadau olynol o ofal neu driniaeth wael mewn gwasanaeth
Cam-drin domestig
- camdriniaeth a gyflawnir gan rywun sy'n, neu sydd wedi bod yn aelod o'r teulu neu'n bartner agos.
Caethwasiaeth fodern
- pan orfodir unigolyn i weithio am ddim
- gall cyflogwr eu rheoli neu eu perchnogi, neu eu symud o wahanol ardaloedd neu dramor.
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ynglŷn ag amddiffyn plant
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth fydd yn digwydd pe byddai rhywun yn sôn wrthym fod angen help ar eich plentyn i gadw’n ddiogel. Ar y tudalennau hyn fe gewch wybodaeth am ein gweithdrefnau amddiffyn plant:
Rhoi adborth i ni
Gallwch roi adborth ar ein gwasanaethau drwy fynd i’r dudalen Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau ar ein gwefan, neu gallwch siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol.
Mwy o wybodaeth
Gwefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Gwefan Llywodraeth Cymru